Loading...
Larger font
Smaller font
Copy
Print
Contents
  • Results
  • Related
  • Featured
No results found for: "".
  • Weighted Relevancy
  • Content Sequence
  • Relevancy
  • Earliest First
  • Latest First
    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents

    Article 5—Ymgysegriad

    ADDEWID DUW YDYW, “Ceisiwch fi hefyd, a chwi a’m cewch, pan y m ceisioch â’ch holl galon.” Jer. 29:13.CG 32.1

    Rhaid ildio’r holl galon i Dduw, neu ni ellir byth weithredu ynom y cyfnewidiad in hadfer i’w gyffelybrwydd Ef. Yr ydym wrth natur wedi ein dieithrio oddi wrth Dduw. Mae’r Ysbryd Glân yn disgrifio ein cyflwr yn y fath eiriau â’r rhai hyn: “Meirw mewn camweddau a phechodau,” “y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg,” “nid oes dim cyfan ynddo.” Yr ydym yn cael ein dal yn gaeth yn magl Satan, “a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.” Eph. 2:1; Esa. 1:5, 6; 2 Tim. 2:26. Mae Duw yn dymuno ein hiachâu, ein gollwng yn rhydd. Ond tra bo hyn yn gofyn diwygiad llwyr, adnewyddiad ein holl natur, rhaid i ni roddi ein hunain yn gwbl i fyny iddo Ef.CG 32.2

    Rhyfel yn erbyn hunan ydyw y frwydr fwyaf ymladdwyd erioed. Mae ildio hunan, rhoddi popeth i ewyllys Duw, yn gofyn ymdrech; eithr rhaid i’r enaid ymostwng i Dduw cyn y gellir ei adnewyddu mewn sancteiddrwydd.CG 32.3

    Nid yw llywodraeth Duw, fel y mynasai Satan iddi ymddangos wedi’i seilio ar ymostyngiad dall, na rheolaeth ddireswm. Apelia at y deall a’r gydwybod. “Deuwch yr awr hon ac ymresymwn” (Esa. 1:18), ydyw gwahoddiad y Creawdwr i’r bodau a wnaeth. Nid yw Duw yn gorfodi ewyllys ei greaduriaid. Ni all dderbyn gwrogaeth nad yw yn cael ei rhoddi yn ewyllysgar ac yn ddeallgar. Byddai ymostyngiad gorfodol yn atal pob datblygiad gwirioneddol o feddwl neu gymeriad; gwnai ddyn yn beiriant yn unig. Nid hyn yw amcan y Creawdwr. Mae yn ewyllysio fod i ddyn, coron-waith ei allu creadigol, gyrraedd y datblygiad uchaf posibl. Gesyd ger ein bron uchder y fendith yr ewyllysia ein dwyn tuag ati, drwy ei ras. Gwahodda ni i roddi ein hunain iddo Ef, fel y gallo weithredu ei ewyllys ynom. Mae yn gorffwys arnom ni i ddewis a’n rhyddheir ni oddi wrth gaethiwed pechod, i gyfranogi o ryddid gogoneddus plant Duw.CG 32.4

    Wrth roddi ein hunain i Dduw, rhaid i ni o angenrheidrwydd ymwadu â phob peth a’n gwahana oddi wrtho Ef. Yn gyson â hyn y dywed y Gwaredwr, “Pob un ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint ol ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi.” Luc 14:33. Pa beth bynnag a ddena y galon oddi wrth Dduw rhaid ei ymwrthod. Mammon ydyw eilun llawer. Cariad at arian, dymuniad am olud, yw’r gadwyn aur sydd yn eu cysylltu wrth Satan. Enw ac anrhydedd bydol a addolir gan ddosbarth arall. Bywyd o esmwythyd hunanol a rhyddid oddi wrth gyfrifoldeb sydd eilun i eraill. Ond rhaid torri y rhwymau caethiwus hyn. Ni allwn fod mewn rhan yn eiddo yr Arglwydd a’r hanner arall yn eiddo y byd. Nid ydym blant Duw os nad ydym felly yn hollol.CG 33.1

    Ceir rhai sy’n proffesu gwasanaethu Duw, tra maent yn ymddiried yn eu hymdrechion eu hunain i ufuddhau i’w gyfraith, i ffurfio cymeriad iawn a sicrhau iachawdwriaeth. Ni chyffroir eu calonnau gan unrhyw deimlad dwfn o gariad Crist, eithr ceisiant gyflawni dyletswyddau y bywyd cristionogol fel yr hyn a ofyna Duw ganddynt er mwyn ennill nefoedd. Nid yw’r cyfryw grefydd yn werth dim. Pan fydd Crist yn preswylio yn y galon, llenwir yr enaid â’i gariad, gyda llawenydd cymundeb ag Ef, fel y bydd iddo lynu wrtho; ac yn y myfyrdod ohono Ef, bydd i hunan gael ei anghofio. Bydd cariad at Grist yn ffynhonell gweithrediad. Ni ofyna y rhai sy’n teimlo cariad cymhelliadol Duw cyn lleied a ellir ei roddi er cyfarfod a gofynion Duw; ni ofynant am y safon isaf, ond anelant at gydymffurfiad perffaith ag ewyllys eu Hiachawdwr. Gyda dymuniad difrifol ymwrthodant â phopeth, a dangosant ddiddordeb cyfartal â gwerth yr amcan a geisiant. Nid yw proffes o Grist heb y cariad dwfn yma yn ddim ond siarad, ffurfioldeb sych, a chaledwaith beichus.CG 33.2

    A wyt ti yn teimlo ei fod yn ormod o aberth i ymwrthod â phopeth i Grist? Gofyna y cwestiwn i ti dy hun, “Beth a roddodd Crist drosof fi?” Rhoddodd Mab Duw y cyfan - bywyd a chariad ac aberth - er ein hiachawdwriaeth. Ac a ddichon y bydd i ni, gwrthrychau anheilwng cariad mor fawr, atal ein calonnau oddi wrtho? Bob eiliad o’n bywydau, cawsom fendithion ei ras, ac am y rheswm syml yma ni allwn sylweddoli yn llawn ddyfnderoedd yr anwybodaeth a’r trueni y gwaredwyd ni oddi wrtho. A allwn ni edrych arno Ef a drywanwyd gan ein pechodau ac eto fynnu dirmygu ei holl gariad a’i aberth? Yng ngolwg ymddarostyngiad anfeidrol Arglwydd y gogoniant, a fydd i ni rwgnach am na allwn fynd i mewn i fywyd ond yn unig trwy ymdrech a hunan-ddarostyngiad?CG 33.3

    Ymofyniad llawer calon falch yw, “Paham y rhaid i mi fynd mewn edifeirwch ac ymddarostyngiad cyn y gallaf gael sicrwydd o’m cymeradwyaeth gyda Duw?” Cyfeiriaf chwi at Grist. Yr oedd Efe yn ddibechod, a mwy na hyn, yr oedd Efe yn Dywysog y nefoedd; ond er mwyn dyn Efe a ddaeth yn bechod dros yr hil. “Efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.” Esa. 53:12.CG 34.1

    Ond beth a roddwn i fyny, pan yn rhoddi y cwbl? - Calon halogedig drwy bechod i’r Iesu i’w phuro. i’w glanhau drwy ei waed ei hun, ac i’w chadw drwy ei gariad digymar. Ac eto tybia dynion ei bod yn anodd rhoddi y cwbl i fyny! Yr wyf yn cywilyddio clywed hynny yn cael ei grybwyll, mae arnaf gywilydd ei ysgrifenu.CG 34.2

    Nid yw Duw yn gofyn i ni ymwrthod â dim y mae ei gadw er ein lles. Ym mhob peth a wna, mae ganddo mewn golwg ddedwyddwch ei blant. O na fyddai i bawb nad ydvnt yn dewis Crist sylweddoli fod ganddo rhywbeth llawer iawn gwell i’w gynnig iddynt nac y ceisiant eu hunain! Mae dyn yn gwneud y niwed a’r anghyfiawnder mwyaf â’i enaid ei hun wrth feddwl a gweithredu yn groes i ewyllys Duw. Ni ellir cael gwir lawenydd yn y llwybr a waherddir gan yr Hwn a ŵyr beth sydd orau, a’r Hwn sydd yn cynllunio er daioni ei greaduriaid. Llwybr trosedd ydyw llwybr trueni a dinistr.CG 34.3

    Camgymeriad ydyw’ coleddu y syniad fod yn dda gan Dduw weld ei blant yn dioddef. Mae’r holl nefoedd yn teimlo diddordeb yn nedwyddwch dyn. Nid yw ein Tad nefol yn cau rhodfeydd llawenydd i neb o’i greaduriaid. Mae’r gofynion Dwyfol yn galw arnom i ochel y penrhyddid hwnnw sy’n dwyn dioddefaint a siomedigaeth, sy’n cau dôr dedwyddwch a nefoedd yn ein herbyn. Mae Gwaredwr y byd yn derbyn dynion fel y maent, gyda’u holl anghenion, amherffeithion, a gwendidau; ac nid yn unig y mae’n glanhau oddi wrth bechod, a rhoddi iachawdwriaeth drwy ei waed, ond y mae’n bodloni dyheadau calon pob un a gydsynia i wisgo ei iau, a dwyn ei faich. Ei amcan Ef ydyw cyfrannu heddwch a gorffwys i bawb a ddaw ato am fara y bywyd. Ni ofyna i ni gyflawni ond yn unig y dyletswyddau hynny sy’n cyfeirio ein camau i’r gwynfyd eithaf lle ni ddichon yr anufudd byth gyrraedd. Cael Crist wedi ei ffurfio oddi mewn, yn obaith o’r gogoniant, ydyw gwir fywyd llawen yr enaid.CG 34.4

    Mae llawer yn gofyn, “Pa fodd yr wyf fi i roddi fy hunan i Dduw?” Yr wyt yn dymuno rhoddi dy hun iddo Ef; ond yr wyt yn wan mewn nerth moesol, yng nghaethiwed amheuaeth, ac yn cael dy lywodraethu gan arferion dy fywyd o bechod. Mae dy addewidion a’th benderfyniadau megis rhaffau o dywod. Ni elli reoli dy feddyliau, dy ysgogiadau, dy serchiadau. Mae’r wybodaeth am dy addewidion toredig a’r addunedau aethant yn ofer yn gwanhau dy ymddiried yn dy gywirdeb dy hun, ac yn peri i ti deimlo na all Duw dy dderbyn; ond ni raid i ti anobeithio. Yr hyn sydd eisiau arnat ydyw dealt gwir nerth yr ewyllys. Hwn yw y gallu llywodraethol yn natur dyn, y gallu i benderfynu, neu i ddewis. Mae popeth yn dibynnu ar weithrediad yr ewyllys. Rhoddodd Duw i ddynion y gallu i ddewis; hwynt-hwy sydd i’w ymarfer. Ni elli newid dy galon, ni elli ohonot dy hun roddi i Dduw ei serchiadau; ond gelli ddewis ei wasanaethu. Gelli roddi dy ewyllys iddo Ef, ac wedi hynny fe weithreda Ef ynot i ewyllysio a gweithredu yn ôl ei ewyllys da ei hun. Fel hyn dygir dy holl natur dan lywodraeth Ysbryd Crist; canolbwyntir dy serchiadau arno Ef, bydd dy feddyliau mewn cytgord ag Ef.CG 35.1

    Mae dymuniad am ddaioni a sancteiddrwydd yn iawn, ond ni fydd o leshad os nad yw’n datblygu. Collir llawer tra bont yn gobeithio ac yn dymuno bod yn Gristionogion. Nid ydynt yn dyfod at y pwynt o ildio yr ewyllys i Dduw. Nid ydynt yn dewis bod yn Gristionogion.CG 35.2

    Trwy iawn ymarferiad o’r ewyllys, gellir gwneud cyfnewidiad trwyadl yn dy fywyd. Wrth ildio dy ewyllys i Grist, yr wyt yn ymgyfathrachu â’r Gallu sydd uwchlaw tywysogaethau ac awdurdodau. Cei nerth oddi uchod i’th ddal yn gadarn, ac fel hyn, drwy ildio dy hunan yn barhaus i Dduw galluogir di i fyw y bywyd newydd, ie, bywyd y ffydd.CG 35.3

    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents