Loading...
Larger font
Smaller font
Copy
Print
Contents
  • Results
  • Related
  • Featured
No results found for: "".
  • Weighted Relevancy
  • Content Sequence
  • Relevancy
  • Earliest First
  • Latest First
    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents

    Article 7—Y prawf o fod yn ddisgybl

    “OD OES NEB yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.” Cor. 5:17.CG 42.1

    Gall na bydd dyn yn alluog i ddweud yn fanwl y pryd neu’r man, neu i olrhain holl gadwyn amgylchiadau yng ngwaith yr argyhoeddiad; eithr nid yw hyn yn profi ei fod heb ei argyhoeddi. Dywedodd Crist wrth Nicodemus, “Y mae’r gwynt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly mae pob un a’r a aned o’r Ysbryd.” Ioan 3:8. Megis y gwynt, yr hwn sydd yn anweledig, eto effeithiau yr hwn a welir yn amlwg ac a deimlir, ydyw Ysbryd Duw yn ei waith ar y galon ddynol. Mae’r gallu ailenedig hwnnw, yr hwn nad dichon un llygad dynol ei weld, yn cenhedlu bywyd newydd yn yr enaid; crea fod newydd ar ddelw Duw. Tra bo gwaith yr Ysbryd yn ddistaw ac anweladwy, mae ei effeithiau yn amlwg. Os ydyw’r galon wedi ei hadnewyddu gan Ysbryd Duw, bydd i’r bywyd ddwyn tystiolaeth i’r ffaith. Tra na allwn wneud dim er newid ein calonnau, neu tuag at ddwyn ein hunain i gytgord â Duw - tra na ddylem o gwbl ymddiried i ni ein hunain neu ein gweithredoedd da, dengys ein bywydau pa un a yw gras Duw yn trigo o’n mewn. Gwelir cyfnewidiad yn y cymeriad, a’r arferion. Bydd y gwrthgyferbyniad rhwng yr hyn a fu a’r hyn ydynt yn glir a diamheuol. Datguddir y cymeriad, nid drwy weithredoedd da yn achlysurol a gweithredoedd drwg yn achlysurol, eithr trwy dueddiad y geiriau a’r gweithredoedd arferol.CG 42.2

    Mae’n wir y gall cywirdeb ymarweddiad allanol fodoli heb allu adnewyddol Crist. Gall cariad at ddylanwad a’r dymuniad am barch gan eraill gynyrchu bywyd da, rheolaidd. Gall hunan-barch ein harwain i osgoi ymddangos yn ddrygionus. Gall calon hunanol gyflawni gweithredoedd haelionus. Ym mha ffordd, ynte, y penderfynwn ar ochr pwy yr ydym?CG 42.3

    Pwy bia y galon? Gyda phwy y mae ein meddyliau? Am bwy yr ydym yn hoffi siarad? Beth sydd yn cael ein serchiadau gwresocaf a’n hegnion gorau? Os ydym yn eiddo Crist, mae ein meddyliau gydag Ef, ac amdano Ef y mae ein meddyliau melysaf. Mae’r oll sydd gennym ac a ydym yn gysegredig iddo Ef. Yr ydym yn sychedu am ddwyn ei ddelw, anadlu ei Ysbryd, gwneud ei ewyllys, a’i foddhau ym mhob peth.CG 43.1

    Bydd i’r rhai a ddaw yn greaduriaid newydd yng Nghrist ddwyn ffrwythau yr Ysbryd - “cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest.” Gal. 5:22. Ni fyddant mwy yn nwydus fel o’r blaen, ond trwy ffydd Mab Duw, dilynant ei ôl, adlewyrchant ei gymeriad, a phurant eu hunain megis y mae yntau yn bur. Y pethau oeddynt gynt yn eu casâu, maent yn awr yn eu caru; a’r pethau oeddynt gynt yn eu caru, a gasânt. Daw y balch a’r hunan-dybiol yn addfwyn a gostyngedig o galon. Daw y coeg a’r trahaus yn ddifrifol ac yn anymwthgar. Daw y meddwyn yn sobr, a’r dihiryn yn bur. Gosodir o’r neilltu arferion a dulliau’r byd. Bydd i’r Cristionogion geisio nid y “trwsiad . . . oddi allan,” ond “cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth ysbryd addfwyn a llonydd.” 1 Pedr 3:3, 4.CG 43.2

    Nid oes un prawf o edifeirwch gwir, oddieithr iddo ddwyn adnewyddiad. Os efe a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ôl yr hyn a dreisiodd, os cyffesa ei bechodau ac os câr Duw a’i gyd- ddynion, gall y pechadur fod yn sicr ei fod wedi mynd trwodd o farwolaeth i fywyd.CG 43.3

    Pan ddeuwn at Grist fel bodau pechadurus wedi cyfeiliorni, a dyfod yn gyfranogion o’i ras maddeuol, mae cariad yn ffrydio yn y galon. Mae pob baich yn ysgafn; oblegid mae iau Crist yn esmwyth. Daw dyletswydd yn hyfrydwch, ac aberth yn bleser. Y llwybr a ymddangosai o’r blaen yn gudd mewn tywyllwch sydd yn dyfod yn ddisglair gan belydrau oddi wrth Haul y Cyfiawnder.CG 43.4

    Bydd prydferthwch cymeriad Crist i’w ganfod yn ei ganlynwyr. Ei bleser Ef oedd gwneud ewyllys Duw. Cariad at Dduw, sêl dros ei ogoniant, oedd y gallu llywodraethol ym mywyd ein Gwaredwr. Yr oedd cariad yn prydferthu ac urddasoli ei holl weithredoedd. Daw cariad o Dduw. Ni all y galon nad yw wedi ei chysegru roddi bod iddo, na’i gynhyrchu. Fe’i ceir yn unig yn y galon lle mae’r Iesu yn tevrnasu. “Yr ydym ni yn caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.” Ioan 4:19, BCN. Yn y galon a adnewyddwyd gan Ddwyfol ras, cariad yw egwyddor gweithrediad. Mae yn nodweddu y cymeriad, yn llywodraethu y cymhellion, yn rheoli’r nwydau, yn darostwng gelyniaeth, ac yn urddasoli y serchiadau. Mae’r cariad hwn, yn cael ei feithrin yn yr enaid, yn melysu’r bywyd, ac yn arllwys dylanwad pureiddiol ar bawb o gwmpas.CG 43.5

    Mae dau gamsymad y dylai plant Duw - yn enwedig y rhai hynny sydd newydd ddyfod i ymddiried yn ei ras - warchod rhagddynt. Y cyntaf yw, edrych ar eu cyflawniadau eu hunain, ymddiried mewn rhywbeth y gallant hwy wneud, er dwyn eu hunain gytgordiad â Duw. Mae’r hwn a gesia ddod yn sanctaidd trwy ei ymdrech ei hun i gadw y ddeddf yn amcanu at amhosibilrwydd. Mae y cwbl all dyn wneud heb Grist yn halogedig â hunaniaeth a phechod. Gras Crist yn unig, drwy ffydd, a ddichon ein sancteiddio.CG 44.1

    Yr ail gamsyniad, ac un sydd heb fod yn llai peryglus yw. fod crediniaeth yng Nghrist yn rhyddhau dynion oddi wrth gadw cyfraith Duw; am mai drwy ffydd yn unig y deuwn yn gyfranogion o ras Crist; nad oes a fynno ein gweithredoedd ddim â’n prynedigaeth.CG 44.2

    Eithr sylwer yma nad cydsyniad allanol yn unig yw ufudd-dod, ond gwasanaeth cariad. Mae cyfraith Duw yn dangos ei wir natur; y mae yn gorfforiad o egwyddor fawr cariad, a thrwy hynny yn sail ei lywodraeth mewn nef a daear. Os yw ein calonnau wedi eu hadnewyddu ar ddelw Duw, os yw’r cariad Dwyfol wedi ei blannu yn yr enaid, oni chaiff cyfraith Duw ei chario allan yn y bywyd? Pan fo egwyddor cariad yn blanedig yn y galon, pan fo dyn wedi ei adnewyddu yn ôl delw yr Hwn a’i gwnaeth, cyflawnir addewid y cyfamod newydd, “Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau.” Heb. 10:16. Ac os yw’r gyfraith yn ysgrifenedig yn y galon, oni wna ffurfio’r bywyd? Ufudd-dod - gwasanaeth a gwrogaeth cariad - yw gwir arwydd disgyblaeth. Fel hyn y dywed yr Ysgrythyr, “Canys hyn yw cariad Duw; bod i ni gadw ei orchymynion.” “Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchymynion ef, celwyddog yw, a’r gwirionedd nid yw ynddo.” 1 Ioan 5:3; 2:4. Yn hvtrach na rhyddhau dyn oddi wrth ufudd-dod, ffydd. ffydd yn unig, sydd yn ein gwneud yn gyfranogion o ras Crist, yr hwn sydd yn ein galluogi i roddi ufodd-dod.CG 44.3

    Nid ydym yn ennill iachawdwriaeth drwy ein hufudd-dod; oblegid iachawdwriath yw rhad rodd Duw, i’w derbyn drwy ffydd. Eithr mae ufodd-dod yn ffrwyth ffydd. “A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef. fel y dileai ein pechodau ni; ac ynddo ef nid oes pechod. Pob un a’r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pob un a’r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef.” 1 Ioan 3:5, 6. Cawn yma y gwir brawf. Os ydym yn aros yng Ngrist, os yw cariad Duw yn preswylio ynom. bydd ein teimladau, ein meddyliau, ein bwriadau, ein gweithredoedd. mewn cytgordiad ag ewyllys Duw fel ei gosodir allan yng ngorchymynion ei gyfraith sanctaidd. “O blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn.” 1 Ioan 3:7. Mae cyfiawnder yn cael ei ddiffinio wrth safon deddf sanctaidd Duw, fel ei gosodir allan yn y deg gorchymyn ar Sinai.CG 45.1

    Nid ffydd. ond tybiaeth. ydyw y ffydd honno yng Ngrist, sy’n proffesu rhyddhau dynion oddi wrth y cyfrifoldeb o roddi ufudd-dod Dduw. “Trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd.” Ond “ffydd heb weithredoedd, marw yw.” Eph. 2:8; Iago 2:26. Dywedodd Crist amdano ei hun cyn ei ddyfod i’r ddaear, “Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.” Salm 40:8. Ac ychydig cyn ei esgyniad i’r nef yn ôl, Efe a ddywedodd, “Fel y cedwais i orchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.” Ioan 15:10. Yr Ysgrythur a ddywed, “Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchmynion ef. ... Yr hwn a ddywed ei fod yn aros ynddo ef, a ddylai yntau felly rodio, megis ag y rhodiodd ef.” 1 Ioan 2:3-6. “Oblegid Crist yntau a ddioddefodd drosom ni, gan adael i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef.” 1 Pedr. 2:21.CG 45.2

    Mae amod bywyd tragwyddol yn awr fel yr hyn a fu bob amser yn union yr hyn ydoedd ym Mharadwys cyn cwymp ein rhieni cyntaf - perffaith ufodd-dod i gyfraith Duw, perffaith gyfiawnder. Pe caniateid bywyd tragwyddol ar rhyw delerau llai na hyn, yna byddai dedwyddwch yr holi gyfanfyd yn cael ei beryglu. Bvddai y ffordd yn agored i bechod, a’i holl gyfres o wae a thrueni, gael ei anfarwoli.CG 45.3

    Yr oedd yn bosibl i Adda, cyn y cwymp, ffurfio cymeriad cyfiawn trwy ufudd-dod i ddeddf Duw. Ond methodd wneud hyn, ac oherwydd ei bechod et mae ein natur wedi syrthio, ac ni allwn wneuthur ein hunain yn gyfiawn. Tra’r ydym yn bechadurus, ansanctaidd, ni allwn ufuddhau yn berffaith i ddeddf sanctaidd. Nid oes gennym gyfiawnder o’r eiddom ein hunain i gyfarfod hawliau cyfraith Duw. Ond y mae Crist wedi gwneud i ni ffordd dihangfa. Bu fyw ar y ddaear ymysg treialon a themtasiynau fel y rhai y mae’n rhaid i ninnau eu cyfarfod. Bu fyw bywyd dibechod. Bu farw drosom, ac yn awr mae yn cynnig tynnu ymaith ein pechodau, a rhoddi i ni ei gyfiawnder. Os bydd i ti roddi dy hunan iddo Ef, a’i dderbyn fel dy Waredwr, yna, er ei fwyn Ef, fe’th gyfrifir yn gyfiawn, yn bechadurus fel y dichon y bu dy fywyd. Mae cymeriad Crist yn sefyll yn lle dy gymeriad di, a chymeradwyir di gerbron Duw fel pe buaset heb bechu.CG 46.1

    Mwy na hyn, mae Crist yn newid y galon; Efe a breswylia yn dy galon drwy ffydd. Yr wyt i ddal y cysylltiad yma â Christ drwy ffydd ac ymroddiad parhaus dy ewyllys iddo Ef; a chyhyd ag y gwnei hyn Efe a weithreda ynot i ewyllysio a gweithredu yn ôl ei ewyllys da. Felly gelli ddweud, “A’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi.” Gal. 2:20. Felly y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, “Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch.” Matt. 10:20. Wedi hynny, gyda Christ yn gweithio ynot, bydd i ti amlygu yr un ysbryd a chyflawni yr un gweithredoedd - gweithredoedd cyfiawnder, ufudd-dod.CG 46.2

    Gan hynny nid oes gennym ynom ein hunain ddim y gallwn ymffrostio ynddo. Nid oes gennym unrhyw sail i hunan-ddyrchafiad. Mae unig sail ein gobaith yng nghyfiawnder Crist yn cael ei gyfrif i ni, ac yn yr hyn a weithredir gan ei Ysbryd yn gweithio ynom a thrwom.CG 46.3

    Pan fyddwn yn siarad am ffydd, mae yna wahaniaeth y dylid ei gadw mewn cof. Mae yna fath o gredu sydd yn hollol wahanol i ffydd. Mae bodolaeth a gallu Duw, gwirionedd ei Air, yn ffeithiau na all Satan na’i luoedd eu gwadu yn eu calonnau. Dywed y Beibl fod “y cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu;” Iago 2:19, eithr nid ffydd ydyw hyn. Lle ceir nid yn unig grediniaeth yng ngair Duw, eithr ymddarostyngiad yr ewyllys iddo; lle mae’r galon wedi ei rhoddi iddo Ef, y serchiadau wedi eu sefydlu arno, mae yno ffydd - ffydd yn gweithio drwy gariad, ac yn puro yr enaid. Trwy’r ffydd hon yr adnewyddir y galon ar ddelw Duw. Ac mae’r galon, heb ei hail-eni, heb fod yn “darostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith” (Rhuf. 8:7), yn awr yn ymhyfrydu yn ei gorchymynion sanctaidd, gan dorri allan i ddweud gyda’r Salmydd, “Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.” Salm 119:97. A chyflawnir cyfiawnder y ddeddf ynom ni. “y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.” Rhuf. 8:1.CG 46.4

    Ceir y rhai hynny sydd yn adnabod cariad maddeuol Crist, ac mewn gwirionedd yn dymuno bod yn blant Duw; eto maent yn sylweddoli fod eu cymeriad yn amherffaith, eu bywyd yn ddiffygiol, ac y maent yn amau a ydyw eu calonnau wedi eu hadnewyddu gan yr Ysbryd Glân. Wrth y cyfryw y dywedaf. Na thynnwch yn ôl mewn anobaith. Bydd rhaid i ni yn aml i blygu i lawr a wylo wrth draed yr Iesu oherwydd ein diffygion a’n camgymeriadau; ond nid ydym i ddigaloni. Hyd yn oed os gorchfygir ni gan y gelyn nid ydym yn cael ein bwrw ymaith, yn anghofedig a gwrthodedig i Duw. Na; mae Crist ar ddeheulaw Duw, yr hwn sydd bob amser yn eiriol drosom. Meddai yr annwyl Ioan, “Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch. fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn.” 1 Ioan 2:1. Ac nac anghofiwch eiriau Crist, “Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi.” Ioan 16:27. Mae yn dymuno eich adfer iddo ei hun, i gael gweld ei burdeb a’i sancteiddrwydd ei hunan yn cael ei lewyrchu ynoch chwi. A dim ond i chwi roddi eich hunain i fyny iddo Ef, yr Hwn a ddechreuodd ynoch waith da a’i dwg ymlaen hyd ddydd Iesu Grist. Gweddiwch yn daerach; credwch yn fwy llawn. Fel y deuwn i golli ymddiried yn ein gallu ein hunain, bydded i ni ymddiried yng ngallu ein Prynwr, a ni a’i moliannwn Ef yr hwn yw goleunni ein bywyd.CG 47.1

    Po agosaf y deui at Iesu, mwyaf oll y bydd i ti ymddangos yn feius yn dy olwg dy hun; canys bydd dy welediad yn gliriach, a byddCG 47.2

    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents