Loading...
Larger font
Smaller font
Copy
Print
Contents
  • Results
  • Related
  • Featured
No results found for: "".
  • Weighted Relevancy
  • Content Sequence
  • Relevancy
  • Earliest First
  • Latest First
    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents

    Article 12—Beth I’w wneud ag amheuaeth

    MAE LLAWER, YN enwedig y rhai sydd yn newydd i’r bywyd Cristionogol, yn cael eu blino ar adegau gan awgrymiadau amheuaeth. Cânt yn y Beibl lawer o bethau na allant eu hegluro, neu hyd yn oed eu deall, ac mae Satan yn defnyddio y pethau hyn i siglo eu ffydd yn yr Ysgrythyrau fel datguddiad oddi wrth Dduw. Gofynnant, “Pa fodd y gallwn wybod y ffordd iawn? Os yw’r Beibl mewn gwirionedd yn Air Duw, pa fodd y gallwn gael ein rhyddhau oddi wrth yr amheuon a’r anhawsterau hyn?”CG 77.1

    Nid yw Duw byth yn gofyn i ni gredu heb roddi i ni dystiolaeth ddigonol fel sylfaen i’n ffydd. Mae ei fodolaeth, ei gymeriad, gwirionedd ei Air oll yn cael eu profi trwy dystiolaeth ac yn apelio at ein rheswm; mae’r dystiolaeth hon yn gyflawn. Eto ni ddarfu Duw erioed symud y posibilrwydd o amehuaeth. Rhaid i’n ffydd orffwys ar dystiolaeth, nid ar bethau amlwg a gweledig. Caiff y rhai a ddymuna amau y cyfle i wneud hynny. Caiff y sawl a wir ddymuna wybod y gwirionedd dystiolaeth helaeth i seilio ei ffydd arni.CG 77.2

    Amhosibl yw i feddyliau meidrol amgyffred yn llawn gymeriad a gweithredoedd yr Anfeidrol. Rhaid i’r Bod sanctaidd hwnnw fod byth yn orchuddedig mewn dirgelwch, i’r dealltwriaeth craffaf, hyd yn oed i’r meddwl mwyaf dysgedig. “A elli di wrth chwilio gael gafael ar Dduw? a elli di gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd? Cyfuwch â’r nefoedd ydyw, beth a wnei di? dyfnach nac uffern yw, beth a elli di ei wybod?” Job 11:7, 8.CG 77.3

    Dywedodd yr Apostol Paul, “O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw! mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a’i ffyrdd mor anolrheinadwy ydynt!” Rhuf. 11:33. Ond er mai “cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef, cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef.” Salm 97:2. Gallwn amgyffred ei ymwneud á ni, a’i gymhellion, gallwn ganfod cariad a thrugaredd annherfynol mewn undeb â gallu anfeidrol. Gallwn ddeall cymaint o’i amcanion ag y mae eu gwybod yn ddaioni i ni; ymhellach rhaid i ni o hyd ymddiried yn y llaw hollalluog, a’r galon sydd lawn o gariad.CG 77.4

    Mae Gair Duw, fel cymeriad ei Awdwr Dwyfol, yn dwyn gerbron ddirgelion na all bodau meidrol byth eu hamgyffred yn llawn. Dyfodiad pechod i’r byd, ymgnawdoliad Crist, adenedigaeth, yr atgyfodiad, a llawer o faterion eraill a gyflwynir yn y Beibl, maent yn rhy ddirgel i’r meddwl dynol eu hegluro, neu hyd yn oed eu hamgyffred yn llawn. Ond nid oes gennym reswm o gwbl dros amau ei Air am na allwm ddeall dirgelion ei ragluniaeth. Yr ydym yn cael ei hamgylchu yn barhaus yn y hyd naturiol â dirgelion na allwn eu dirnad. Mae hyd yn oed y ffurfiau isaf o fywyd yn dwyn gerbron ddryswch na all y doethaf o athronwyr mo’i ddehongli. Cawn ym mhob man ryfeddodau uwchlaw ein dirnadaeth. Gan hynny a ddylem synnu os cawn fod yn y byd ysbrydol hefyd ddirgelion na allwn eu dirnad? Gorwedda yr anhawster yn gwbl yng ngwendid a chyfyngdra y meddwl dynol. Mae Duw wedi rhoddi i ni yn yr Ysgrythyrau dystiolaeth ddigonol o’u cymeriad Dwyfol, ac nid oes gennym reswm o gwbl dros amau ei Air am na allwn ddeall dirgelion ei ragluniaeth.CG 78.1

    Dywed yr Apostol Pedr fod yn yr Ysgrythyrau “bethau anodd eu deall, y rhai y mae’r annysgedig a’r anwastad yn eu gŵyrdroi, . . . i’w dinistr eu hunain.” 2 Pedr 3:16. Cymerwyd gafael yn y pethau hyn gan amheuwyr fel prawf yn erbyn y Beibl; ond mor bell oddi wrth hynny ydynt, fel eu bod yn brawf cryf dros eu hysbrydoliaeth Dwyfol. Pe na chynwysai’r Beibl dim ond hanes am Dduw y gallem ei ddeall yn hawdd; pe gallai ei fawredd a’i ragoriaeth gael eu dirnad gan feddyliau meidrol, yna ni fuasai y Beibl yn dwyn tystiolaeth diamheuol o Ddwyfol awdurdod. Dylai hyd yn oed rhagoriaeth a dirgelwch y pynciau a ddygir gerbron ysbrydoli ffydd ynddo fel Gair Duw.CG 78.2

    Mae’r Beibl yn dadlennu gwirionedd gyda symlrwydd a chyfaddasiad perffaith at anghenion a dyheadau y galon ddynol nes synnu a swyno y meddyliau mwyaf diwylledig, tra’n galluogi’r isel a’r annysgedig i weld ffordd iachawdwriaeth. Ac eto mae’r gwirioneddau yma a gyfleir mor syml yn ymadrin â phynciau dyrchafedig, sydd uwchlaw gallu amgyffred dynol, fel na allwn ond eu derbyn am fod Duw wedi eu datgan. Dyna gynllun prynedigaeth yn cael ei daflu yn agored o’n blaen, fel y gall pob enaid weld y camau i gymryd mewn edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist, er mwyn iddo gael ei achub yn ffordd apwyntiedig Duw; eto, dan y gwirioneddau hyn, sydd mor hawdd i’w deall, gorwedda dirgelion sydd yn guddfa i’w ogoniant - dirgelion sydd yn llethu’r meddwl yn ei ymchwiliad, ond sydd yn ysbrydoli yr ymgeisydd gonest am wirionedd gyda pharch a ffydd. Po fwyaf y chwilia’r Beibl, dyfnaf yw ei argyhoeddiad ei fod yn air y Duw byw, ac mae rheswm dynol yn plygu o flaen mawrhydi y datguddiad Dwyfol.CG 78.3

    Nid yw cydnabod na allwn lawn amgyffred wirioneddau y Beibl, yn ddim ond cyfaddef fod y meddwl meidrol yn annigonol i ddirnad yr anfeidrol; na all dyn gyda’i wybodaeth ddynol gyfyng, ddeall bwriadau Hollwybodaeth.CG 79.1

    Am na allant ddirnad ei holl ddirgelion, gwrthoda yr amheuwr a’r inffidel Air Duw; ac nid pawb sy’n proffesu credu y Beibl sydd yn rhydd oddi wrth berygl yn y cyfeiriad yma. Dywed yr apostol, “Edrychwch, frodyr, na byddo . . . yn neb ohonoch galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw.” Heb. 3:12. Mae’n iawn astudio dysgeidiaeth y Beibl yn fanwl, a chwilio i mewn i “ddyfnion bethau Duw” (1 Cor. 2:10), cyn belled ag y maent wedi eu datguddio. Tra mae “y dirgeledigaethau yn eiddo yr Arglwydd ein Duw,” y “pethau amlwg a roddwyd i ni.” Deut. 29:29. Ond gwaith Satan ydyw llygru galluoedd ymchwiliadol y meddwl. Mae rhyw falchder yn gymysg ag ystyriaeth o wirionedd y Beibl, nes mae dynion yn teimlo yn ddiamynedd a gorchfygedig os na allant egluro pob rhan o’r Ysgrythur i’w bodlonrwydd. Mae’n ormod o ddarostyngiad i gydnabod nad ydynt yn deall y geiriau ysbrydoledig. Maent yn anfodlon aros yn amyneddgar hyd nes gwêl Duw yn dda ddatguddio ei wirionedd iddynt. Teimlant fod eu doethineb dynol digynhorthwy yn ddigonol i’w galluogi i amgyffred yr Ysgrythur, a phan fethant â gwneud hyn, maent yn gwadu ei awdurdod. Gwir fod yna lawer o ddamcaniaethau ac athrawiaethau, y tybir yn boblogaidd eu bod yn tarddu o’r Beibl, nad oes iddynt sail o gwbl yn ei ddysgeidiaeth, ac yn wir maent yn wrthwynebus i holl rediad ysbrydoliaeth. Mae’r pethau hyn wedi bod yn achos amheuaeth a dryswch i lawer o feddyliau. Nid ydynt, fodd bynnag, i’w priodoli i Air Duw, eithr i lygriad dyn ohono.CG 79.2

    Pe byddai yn bosibl i fodau crëedig ymgyrraedd at ddealltwriaeth gyflawn o Dduw a’i weithredoedd, yna wedi cyrraedd y pwynt hwn, ni fyddai iddynt hwy ddarganfyddiad pellach o wirionedd, dim cynnydd mewn gwybodaeth, dim datblygiad pellach o feddwl na chalon. Ni fyddai Duw mwy yn oruchaf; a byddai dyn, wedi cyrraedd terfyn gwybodaeth a chyrhaeddiad, byddai yn darfod â chynyddu. Bydded i ni ddiolch i Dduw nad felly y mae. Mae Duw yn anfeidrol; ynddo Ef y mae “holl drysorau doethineb a gwybodaeth.” Col. 2:3. Hyd dragwyddoldeb gall dynion fod bob amser yn chwilio, bob amser yn dysgu, ac eto byth yn disbyddu trysorau ei ddoethineb, ei ddaioni, a’i allu Ef.CG 80.1

    Mae Duw yn bwriadu i wirioneddau ei Air Ef gael eu dadlennu yn gyson i’w bobl hyd yn oed yn y bywyd hwn. Nid oes ond un ffordd yn unig i gyrraedd y wybodaeth hon. Gallwn gyrraedd at ddealltwriaeth o Air Duw yn unig drwy oleuni yr Ysbryd hwnnw y rhoddwyd y Gair trwyddo. “Pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw;” “canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd.” 1 Cor. 2:11, 10. Ac addewid y Gwaredwr i’w ganlynwyr oedd, “Pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd, . . . canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi.” Ioan 16:13, 14.CG 80.2

    Mae Duw yn dymuno i ddyn arfer y gallu i ymresymu; a bydd i astudiaeth o’r Beibl gryfhau a dyrchafu y meddwl mewn modd na all un efrydiaeth arall. Eto rhaid i ni wylio rhag dwyfoli rheswm, sydd yn ddarostyngedig i wendid a gwaeledd dynoliaeth. Os na fynnwn gael yr Ysgrythyrau wedi eu cymylu i’n dealltwriaeth, fel na fydd i’r gwirioneddau amlycaf gael eu hamgyffred, rhaid i ni gael symlrwydd a ffydd plentyn bach, bod yn barod i ddysgu, a deisyf am gymorth yr Ysbryd Glân. Dylai ymdeimlad o allu a doethineb Duw, ac o’n hanallu ninnau i amgyffred ei fawredd, ein hysbrydoli â gostyngeiddrwydd, a dylem agor ei Air, fel pe yr elem i’w bresenoldeb, gydag ofn sanctaidd. Pan ddeuwn at y Beibl, rhaid i reswm gydnabod awdurdod uwchraddol iddo ei hun, a rhaid i’r galon a’r deall blygu i’r YDWYF mawr.CG 80.3

    Mae lawer o hethau yn ymddangos yn ddyrys neu dywyll a wneir yn amlwg a syml gan Dduw i’r rhai sydd yn ceisio dealltwriaeth ohonynt. Eithr heb arweiniad yr Ysbryd Glân, byddwn o hyd yn agored i wyrdroi’r Ysgrythyrau neu i’w camesbonio. Mae yna lawer o ddarllen ar y Beibl nad yw yn fuddiol. ac mewn llawer o achosion sydd yn niwed pendant. Pan agorir Gair Duw heb barch, ac heb weddi; pan nad yw’r meddyliau a’r serchiadau wedi eu sefydlu ar Dduw, neu mewn cytgord a’i ewyllys Ef, mae’r meddwl yn cael ei gymylu gan amheuaeth; ac hyd yn oed yn yr astudiaeth o’r Beibl mae amheuaeth yn cryfhau. Cymer y gelyn reolaeth dros y meddyliau, ac awgryma ddehongliadau nad ydynt gywir. Pa bryd bynnag y mae dynion, mewn gair neu weithred, heb fod yn ymgeisio at fod mewn cytgord â Duw, yna, pa mor ddysgedig bynnag y bônt, maent yn agored i gyfeiliorm yn eu dealltwriaeth o’r Ysgrythyr, ac nid diogel ymddiried yn eu hesboniadau. Y rhai a edrychant i’r Beibl am anghysonderau, nid oes ganddynt ddeall ysbrydol. Gyda gwelediad gwyrdroëdig gwelant achosion lawer dros amheuaeth ac anghrediniaeth mewn pethau gwirioneddol blaen a syml.CG 81.1

    Er na dderbyniant hynny, gwir achos amheuaeth ac anghrediniaeth yn y rhan fwyaf o achosion, ydyw cariad at bechod. Nid yw dysgeidiaeth a gofynion manwl Gair Duw yn gymeradwy i’r galon falch sydd yn caru pechod, a pharod yw’r rhai hynny sydd yn anewyllysgar i ufuddhau i’w ofynion i amau ei awdurdod. Er mwyn ymgyrraedd at wirionedd, rhaid cael dymuniad gonest i wybod y gwirionedd, a pharodrwydd calon i ufuddhau iddo. A phawb a ddeuant yn yr ysbryd yma i astudio y Beibl a gânt brofion digonol ei fod yn Air Duw, a gallant ennill dealltwriaeth o’i wirioneddau a’i gwnânt yn ddoeth i iachawdwriaeth.CG 81.2

    Crist a ddywedodd, “Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth.” Ioan 7:17. Yn hytrach nac ymddadlau ac ymgecru ynghylch yr hyn nad wyt yn ei ddeall, dal ar y goleuni sydd yn tywynnu arnat yn barod, a thi a dderbyni oleuni mwy. Trwy ras Crist cyflawna bob dyletswydd a wnaed yn amlwg i’th ddeall, a galluogir di i ddeall a chyflawni y dyletswyddau hynny yr wyt yn awr mewn amheuaeth yn eu cylch.CG 81.3

    Mae tystiolaeth sydd yn agored i bawb - y mwyaf dysgedig a’r mwyaf anllythrennog - tystiolaeth y profiad. Mae Duw yn ein gwahodd i brofi drosom ein hunain wirionedd ei Air, a gwirionedd ei addewidion. Geilw arnom gan ddweud, “Profwch, a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd.” Salm 34:8. Yn hytrach na dibynnu ar air un arall, yr ydym i brofi drosom ein hunain. Efe a ddywed, “Gofynnwch, a chwi a gewch.” Ioan 16:24. Ei addewidion a gyflawnir. Ni fethasant erioed; ni allant byth fethu. Ac fel y byddwn yn agosáu at yr Iesu, ac yn llawenhau yng nghyflawnder ei gariad, cilia ein hamheuaeth a’n tywyllwch yng ngoleuni ei bresenoldeb Ef.CG 81.4

    Dywed yr Apostol Paul i Dduw ein gwaredu ni “allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab.” Col. 1:13. Ac y mae pob un sydd wedi mynd trwodd o farwolaeth i fywyd yn alluog i selio “mai geirwir yw Duw.” Ioan 3:33. Gall ef dystiolaethu, “Yr oedd arnaf angen cymorth, a chefais ef yn yr Iesu. Pob angen a ddiwallwyd, newyn fy enaid a ddigonwyd; ac yn awr mae’r Beibl i mi yn ddatguddiad o Iesu Grist. A ofynwch paham y credaf yn yr Iesu? - Am ei fod i mi yn Waredwr Dwyfol. Paham y credaf y Beibl? - Am i mi ei gael yn llais Duw i fy enaid.” Gallwn gael y tyst ynom ein hunain fod y Beibl yn wir, a bod Crist yn Fab Duw. Gwyddom nad ydym yn dilyn chwedlau.CG 82.1

    Mae Pedr yn annog ei frodyr i “gynyddu mewn gras a gwybodaeth ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist.” 2 Pedr. 3:18. Pan fydd pobl Dduw yn cynyddu mewn gras, derbyniant yn barhaus ddealltwriaeth gliriach o’i Air. Canfyddant oleuni a phrydferthwch newydd yn ei wirioneddau cysegredig. Bu hyn yn wir yn hanes yr Eglwys ym mhob oes, ac fel hyn y parha hyd y diwedd. “Llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.” Diar. 4:18.CG 82.2

    Trwy ffydd gallwn edrych i’r dyfodol, ac ymaflyd yn addewid Duw am gynnydd dealltwriaeth, y cyneddfau dynol yn uno â’r rhai dwyfol, a phob gallu o eiddo yr enaid wedi eu dwyn i gysylltiad uniongyrchol â Ffynhonell goleuni. Gallwn lawenychu y bydd i’r oll fu yn ein drysu yn rhagluniaethau Duw, yn cael eu gwneud yn amlwg; pethau anodd eu deall a gânt eglurhad y pryd hynny; a lle nad oedd ein meddyliau meidrol yn gweld dim ond anhrefn a bwriadau drylliedig, cawn weld yr unoliaeth perffeithiaf aCG 82.3

    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents