Loading...
Larger font
Smaller font
Copy
Print
Contents
  • Results
  • Related
  • Featured
No results found for: "".
  • Weighted Relevancy
  • Content Sequence
  • Relevancy
  • Earliest First
  • Latest First
    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents

    Article 1—Cariad dum at ddyn

    MAE NATUR A datguddiad yr un modd yn tystiolaethu am gariad Duw. Ein Tad yn y nefoedd ydyw ffynhonell bywyd, doethineb, a llawenydd. Edrychwch ar ryfeddodau a phrydferthion natur. Meddyliwch am eu haddasrwydd rhyfedd at anghenion a dedwyddwch, nid yn unig eiddo dyn, eithr pob creadur byw. Yr heulwen a’r glaw, sydd yn llawenychu ac adfywio y ddaear, y bryniau a’r moroedd a’r gwastadeddau, maent oll yn llefaru wrthym am gariad y Creawdwr. Duw sydd yn diwallu anghenion dyddiol ei holl greaduriaid. Yng ngeiriau prydferth y Salmydd -CG 7.1

    “Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt;
    Ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;
    Gan agoryd dy law,
    A diwallu pob peth byw a’th ewyllys da.” Salm 145:15, 16.
    CG 7.2

    Gwnaeth Duw ddyn yn berffaith sanctaidd a dedwydd; ac nid oedd y ddaear deg, fel y daeth o law y Creawdwr, yn dwyn unrhyw falltod, pydredd neu gysgod y felltith. Trosedd yn erbyn deddf Duw deddf cariad - sydd wedi dwyn gwae a marwolaeth. Eto, hyd yn oed yng nghanol y dioddefaint sydd yn dilyn pechod mae cariad Duw yn cael ei ddatguddio. Mae yn ysgrifenedig i Dduw felltithio y ddaear o achos dyn. (Gen. 3:17.) Y ddraenen a’r ysgallen, yr anhawsterau a’r treialon a wnant ei fywyd yn un o lafur a gofal, a benodwyd er ei ddaioni, fel rhan o’r ddisgyblaeth angenrheidiol yng nghynllun Duw er ei ddyrchafu o’r dinystr a’r diraddiad a gyflawnodd pechod. Nid yw’r byd, er iddo syrthio, oll yn flinder a thrueni. Ceir yn natur ei hunan genadwriaethau gobaith a chysur. Ceir blodau ar yr ysgall, a’r drain a orchuddir â rhosynau.CG 7.3

    “Duw cariad yw,” sydd ysgrifenedig ar bob blaguryn, ar bob blewyn o laswellt. Yr adar mwynion sy’n gwneud yr awel yn soniarus â’u caniadau hapus, y blodau tyner yn eu perffeithrwydd sy’n perarogli’r awyr, prennau uchel y goedwig â’u goludog ddail o wyrddlesni byw - maent oll yn dwyn tystiolaeth i ofal tadol tyner ein Duw ni, ac i’w ddymuniad i wneud ei blant yn ddedwydd.CG 7.4

    Mae Gair Duw yn datguddio ei gymeriad. Hysbysodd Ef ei hunan ei anfeidrol gariad a’i dosturi. Pan oedd Moses yn gweddio, “Dangos i mi dy ogoniant,” yr Arglwydd a atebodd, “Gwnaf i’m holl ddaioni fyned heibio o flaen dy wyneb.” Exodus 33:18, 19. Dyma ei ogoniant. Aeth yr Arglwydd heibio o flaen Moses, ac a lefarodd, “Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog, a graslon, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd; Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddau anwiredd, a chamwedd, a phechod.” Exodus 34:6, 7. Mae Efe yn “hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd” (Jonah 4:2), “am fod yn hoff ganddo drugaredd.” Micah 7:18.CG 8.1

    Mae Duw wedi rhwymo ein calonnau wrtho Ef ei hun trwy arwyddion di-rif yn y nef a’r ddaear. Trwy bethau natur, a’r rhwymau daearol dyfnaf a thyneraf y gall calonnau dynol eu gwybod, y mae wedi ceisio datguddio ei hun i ni. Eto ni wna y rhai hyn ond gosod allan ei gariad yn amherffaith. Er yr holl dystiolaethau hyn, dallodd y gelyn da feddyliau dynion, fel yr edrychasant ar Dduw gydag ofn, meddyliasant amdano fel rhywun llym ac anfaddeugar. Arweiniodd Satan ddynion i feddwl am Dduw fel Bod â’i brif briodoledd yn gyfiawnder ystyfnig - un sydd yn farnwr llym, yn ofynwr manwl a chaled. Darluniodd y Creawdwr fel Bod sydd yn gwylio gyda llygad eiddigus i ganfod cyfeiliornadau a chamgymeriadau dynion, fel y gall anfon barn arnynt. Er mwyn symud y cysgod tywyll yma, trwy ddatguddio i’r byd anfeidrol gariad Duw, y daeth yr Iesu i fyw ymysg dynion.CG 8.2

    Daeth Mab Duw o’r nef i amlygu’r Tad. “Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig-anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd Ef.” loan 1:18. “Ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab; a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.” Matt. 11:27. Pan ofynwyd gan un o’r disgyblion, “Dangos i ni y Tad,” yr Iesu a atebodd, “A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad; a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?” loan 14:8. 9.CG 8.3

    Wrth ddisgrifio ei genhadaeth ddaearol, yr Iesu a ddywedodd, yr Arglwydd a’m “heneiniodd i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb.” Luc 4:18. Dyma oedd ei waith. Aeth o gwmpas yn gwneud daioni, ac yn iacháu pawb a orthrymid gan Satan. Ceid pentrefi cyfain lle nad oedd cwynfan cystudd mewn un ty; canys yr oedd Efe wedi mynd drwyddynt, ac iacháu eu holl gleifion. Rhoddai ei waith brawf o’i ddwyfol eneiniad. Yr oedd cariad, trugaredd, a chydymdeimlad yn cael eu datguddio ym mhob gweithred o’i fywyd, elai ei galon allan mewn cydymdeimlad tyner à meibion dynion. Cymerodd natur dyn, fel y gallai gyrraedd anghenion dyn. Nid oedd y rhai isaf a thlotaf yn ofni mynd ato. Yr oedd hyd yn oed blant bach yn cael eu denu ato. Yr oeddynt yn caru dringo ar ei liniau, a chraffu i’r wyneb athrist hwn, oedd yn dirion gan gariad.CG 9.1

    Ni ataliodd yr Iesu un gair o wirionedd, eithr Efe a’i mynegodd bob amser mewn cariad. Arferai y medr mwyaf, a sylw caredig a meddylgar yn ei ymdrafodaeth â’r bobl. Nid oedd byth yn arw, byth yn llefaru gair chwerw yn ddianghenraid, byth yn rhoddi poen i enaid tyner, yn ddiangen. Ni cheryddai wendid dynol. Llefarai y gwirionedd, ond bob amser mewn cariad. Bygythiai ragrith, anghrediniaeth, a drygioni; ond yr oedd dagrau yn ei lais wrth gyhoeddi ei gerydd dinistriol. Wylodd dros Jerusalem, y ddinas a garai, yr hon a wrthododd ei dderbyn, y Ffordd, y Gwirionedd, a’r Bywyd. Gwrthodasant Ef, y Gwaredwr, ond edrychai arnynt â thynerwch tosturiol. Yr oedd ei fywyd yn un o hunan-ymwadiad a gofal meddylgar dros eraill. Yr oedd pob enaid yn werthfawr yn ei olwg. Tra bob amser yn ymagweddu ag urddas dwyfol, Efe a ymostyngai gyda’r sylw tyneraf i bob aelod o deulu Duw. Ym mhob dyn gwelai enaid syrthiedig, a’i achub oedd ei genhadaeth.CG 9.2

    Datguddir cymeriad Duw yn ei fywyd. Dyma gymeriad Duw. O galon y Tad y llifai allan i feibion dynion y ffrydiau o gydymdeimlad Dwyfol, a eglurwyd yng Nghrist. “Duw a ymddangosodd yn y cnawd” (1 Tim. 3:16) oedd yr Iesu, y Gwaredwr tyner a thosturiol.CG 9.3

    Er ein cadw ni y bu yr Iesu fyw, dioddef, a marw. Efe a ddaeth yn “Wr gofidus”, fel y gallem ni gael ein gwneud yn gyfranogion o’r tragwyddol lawenydd. Caniataodd Duw i’w annwyl Fab, llawn gras a gwirionedd, i ddyfod o fyd y gogoniant anhygoel, i fyd a glwyfwyd ac a ddifethwyd gan bechod, a dywyllwyd â chysgod marwolaeth a’r felltith. Caniataodd iddo adael mynwes ei gariad, gwrthrych moliant yr angylion. i ddioddef gwarth, dirmyg, darostyngiad, casineb, a marwolaeth. “Cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef; a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.” Esa. 53:5. Gwelwch Ef yn yr anialwch, yng Ngethsemane, ar y groes. Cymerodd Mab difrycheulyd Duw arno ei hunan faich ein pechod. Yr Hwn a fu yn un â Duw, a deimlodd yn ei enaid yr ysgariad ofnadwy a greodd bechod rhwng Duw a dyn. Hyn a wasgodd o’i wefusau yr ochenaid ingol, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist?” Matt. 27:46. Baich y pechod, yr ymdeimlad o’i ddrygioni ofnadwy, o ysgariad yr enaid oddi wrth Dduw - hyn a dorrodd galon Mab Duw.CG 9.4

    Eithr ni wnaed yr aberth fawr yma i greu yng nghalon y Tad gariad at ddyn, nid i’w wneud yn ewyllysgar i achub. Na, na. “Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab.” loan 3:16. Mae y Tad yn ein caru, nid oherwydd yr iawn mawr, ond Efe a ddarparodd yr iawn am ei fod yn ein caru. Drwy gyfrwng Crist gallai Duw dywallt allan ei gariad anfeidrol ar fyd syrthiedig. “Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun.” 2 Cor. 5:19. Dioddefodd Duw gyda’r Mab. Yn ing Gethsemane, ac angau Calfaria, calon Cariad Anfeidrol a dalodd bris ein hadferiad.CG 10.1

    Yr lesu a ddywedodd, “Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cvmerwyf hi drachefn.” loan 10:17. Hynny yw, “Felly y carodd fy Nhad chwi fel mae hyd yn oed yn fy ngharu i yn fwy am ddodi fy einioes i’ch gwaredu chwi. Wrth ddyfod i chwi yn Ddirprwywr, ac yn Fechnïydd. wrth roddi fy mywyd i lawr, wrth gymryd eich dyledion, eich troseddau, yr wyf yn cael fy ngwneuthur yn annwylach i fy Nhad; oblegid trwy fy aberth i gall Duw fod yn gyfiawn, ac eto yn Gyfiawnhawr y neb a gredo yn yr Iesu.”CG 10.2

    Ni allai neb ond Mab Duw ddwyn i fod ein hiachawdwriaeth; canys Efe yr Hwn oedd ym mynwes y Tad yn unig allai ei hysbysu. Efe yr Hwn yn unig a wyddai uchder a dyfnder cariad Duw allai ei egluro. Ni allai dim llai na’r aberth anfeidrol a wnaeth Crist ar ran dyn syrthiedig ddangos cariad y Tad at ddynoliaeth golledig.CG 10.3

    “Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab.” Rhoddodd Ef nid yn unig i fyw ymysg dynion. i ddwyn eu pechodau, a marw yn aberth drostynt; rhoddodd Ef i’r hil syrthiedig. Yr oedd Crist i wneud lles ac anghenion dynion yn eiddo iddo ei hun. Mae’r Hwn oedd yn un â Duw wedi cysylltu ei hunan â phlant dynion trwy rwymau nad ydynt byth i gael eu torri. Nid “cywilyddus” gan yr Iesu “eu galw hwy yn frodyr;” (Heb. 2:11), ein Haberth, ein Heiriolwr, ein Brawd, yn dwyn ein ffurf ddynol gerbron gorseddfainc y Tad, a thrwy’r oesoedd tragwyddol yn un â’r hiliogaeth a waredwyd ganddo - yn Fab y dyn. A hyn oll fel y gellid dyrchafu dyn o ddirywiad a dinistr pechod, fel y gallo adlewyrchu cariad Duw, a chyfranogi o lawenydd sancteiddrwydd.CG 11.1

    Dylai y pris a dalwn am ein hadferiad, yr aberth anfeidrol o eiddo ein Tad nefol yn rhoddi ei Fab i farw drosom, roddi i ni syniadau dyrchafedig am yr hyn a all digwydd i ni drwy Grist. Fel y mae’r Apostol ysbrydoledig loan yn edrych ar uchder, a dyfnder, a lled cariad y Tad at hiliogaeth ar drengi, llenwir ef â pharch ac addolgarwch, ac wrth fethu cael iaith addas i osod allan fawredd a thynerwch y cariad hwn, geilw ar y byd i edrych amo. “Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, fel y’n gelwid yn feibion i Dduw.” 1 Ioan 3:1. Y fath werth a rydd hyn ar ddyn! Trwy gamwedd daw meibion dyn yn ddeiliaid Satan. Trwy ffydd yn aberth iawnol Crist, gall meibion Adda ddyfod yn feibion Duw. Trwy gymryd arno natur ddynol dyrchafa Crist ddynoliaeth. Mae dynion syrthiedig yn cael eu gosod ar dir lle gallont yn wir, trwy gysylltiad â Christ, ddyfod yn deilwng o’r enw “meibion Duw”.CG 11.2

    Mae’r cyfryw gariad heb gymhariaeth. Plant y Brenin nefol! Addewid werthfawr! Testun y fyfyrdod fwyaf dofn! Cariad anghymharol Duw at fyd nad oedd yn ei garu! Mae i’r syniad ddylanwad lleddfu ar yr enaid, ac yn dwyn y meddwl yn gaeth i ewyllys Duw. Po fwyaf yr astudiwn ar y cymeriad Dwyfol yng ngoleuni y groes, mwyaf oll a welwn o drugaredd, tynerwch, a maddeuant yn gymysg ag uniondeb a chyfiawnder, a chliriaf oll y gwelwn brofion afrifed o gariad anfeidrol, a thosturi tyner sydd tu hwnt i gydymdeimlad hiraethus mam am ei phlentyn croes.CG 11.3

    Gall y dynol gwlwm ddatod, Câr i’w gyfaill wadu’r ffydd.CG 11.4

    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents