Loading...
Larger font
Smaller font
Copy
Print
Contents
  • Results
  • Related
  • Featured
No results found for: "".
  • Weighted Relevancy
  • Content Sequence
  • Relevancy
  • Earliest First
  • Latest First
    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents

    Article 8—Cynyddu i Grist

    MAE’R NEWID BRYD a’n gwna yn blant Duw yn cael ei grybwyll yn y Beibl fel genedigaeth. Hefyd, mae yn cael ei gymharu eginiad yr had da a heuwyd gan y llafurwr. Yr un modd mae’r rhai sydd newydd ddychwelyd at Grist “fel rhai bychain newydd-eni,” i “gynyddu ” (1 Pedr 2:2; Eph. 4:15), hyd at fesur oedran dynion a merched yng Nghrist Iesu. Neu megis yr had da a heuwyd mewn maes maent i dyfu a dwyn ffrwyth. Dywed Esaiah “y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr Arglwydd, fel y gogonedder ef.” Esa. 61:3. Felly, cawn engreifftiau o fywyd naturiol, i’n cynorthwyo yn well i ddeall gwirioneddau dirgel y bywyd ysbrydol.CG 49.1

    Ni all holl ddoethineb a medr dyn gynyrchu bywyd yn y gwrthrych lleiaf mewn natur. Trwy’r bywyd a gyfrannodd Duw ei hun yn unig y dichon i blanhigyn neu anifail fyw. Felly hefyd trwy’r bywyd oddi wrth Dduw yn unig y mae bywyd ysbrydol yn cael ei genhedlu yng nghalonnau dynion. “Oddieithr geni dyn oddi uchod” loan 3:3 (ymylnod) ni all ddyfod yn gyfranogydd y bywyd y daeth Crist i’w roddi.CG 49.2

    Megis gyda bywyd, felly mae gyda thyfiant. Duw yw’r hwn sydd yn dwyn y blaguryn yn flodeuyn a’r blodeuyn yn ffrwyth. Trwy ei allu Ef y mae’r had yn datblygu, “yn gvntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.” Marc 4:28. A dywed y proffwyd Hosea am Israel, “Efe a flodeua fel y lili.” “Adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden.” Hosea 14:5, 7. A’r Iesu a’n geilw i ystyried “y lili, pa fodd y maent yn tyfu.” Luc 12:27. Mae planhigion a’r blodau yn tyfu nid drwy eu gofal, eu pryder, na’u hymdrech eu hunain, eithr trwy dderbyn yr hyn a ddarparodd Duw i wasanaethu i’w bywyd. Ni all y plentyn, trwy unrhyw bryder na gallu o’r eiddo ei hun, ychwanegu at ei faint. Ni ellwch chwithau mwy na hynny, drwy bryder nag ymdrech ohonoch eich hunain, sicrhau cynydd ysbrydol. Mae’r planhigyn, y plentyn, yn tyfu trwy dderbyn oddi wrth y pethau o’u cylch yr hyn sydd yn gwasanaethu i’w bywyd - awyr, heulwen, ac ymborth. Yr hyn yw’r rhoddion naturiol hyn i’r anifail a’r planhigyn, hynny yw Crist i’r rhai hynny sydd yn ymddiried ynddo. Efe yw eu “goleuni tragwyddol”, “haul a tharian.” Esa. 60:19; Salm 84:11. Efe a fydd “fel gwlith i Israel.” “Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân.” Hosea 14:5; Salm 72:6. Efe yw dwfr y bywyd. “bara Duw . . . sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd.” Ioan 6:33.CG 49.3

    Mae Duw, yn rhodd anghymarol ei Fab, wedi amgylchu yr holl fyd ag awyrgylch o ras mor wirioneddol â’r awyr sydd yn cylchredeg o gwmpas y ddaear. Caiff pawb sydd am anadlu yr awyr bywiol hwn fyw. a chynyddu hyd at fesur oedran dynion a merched yng Nghrist Iesu.CG 50.1

    Fel y try y blodeuyn at yr haul, er mwyn i’r pelydrau disglair allu cynorthwyo i berffeithio ei brvdferthwch a’i gymesuredd, felly y dylem ninnau droi at Haul y Cyfiawnder, er mwyn i oleuni y Nefoedd allu tywynnu arnom, fel y gall ein cymeriad gael ei ddatblygu yn nhebygrwydd Crist.CG 50.2

    Mae’r Iesu yn dysgu yr un peth pan ddywed, “Arhoswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, onid erys yn y winwydden; felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynof fi . . . hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim.” loan 15:4, 5. Yr wyt mor ddibynol ar Grist i fyw bywyd sanctaidd. ag ydyw y gangen ar y boncyff am dyfiant a ffrwythlondeb. Ar wahân iddo Ef, nid oes gennyt fywyd; nid oes gennyt nerth i wrthwynebu temtasiwn nac i gynyddu mewn gras a sancteiddrwydd. Trwy aros ynddo Ef, gelli flodeuo. Trwy dynnu dy fywyd ohono Ef, ni bydd i ti wywo na bod yn ddiffrwyth. Byddi megis pren wedi ei blannu ar Ian afonydd dyfroedd.CG 50.3

    Mae gan lawer syniad fod yn rhaid iddynt wneud rhyw ran o’r gwaith eu hunain. Maent wedi ymddiried yng Nghrist am faddeuant pechod, ond yn awr ceisiant fyw yn iawn drwy eu hymdrechion eu hunain. Eithr rhaid i bob ymgais o’r fath fethu. Yr Iesu a ddywed, “Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim.” Mae ein cynydd mewn gras, ein llawenydd. ein defnyddioldeb - oll yn dibynu ar ein hundeb â Christ. Trwy gymundeb ag Ef, bob dydd, bob awr - trwy aros ynddo Ef - yr ydym i gynyddu mewn gras. Mae Efe nid yn unig yn Awdur, ond yn Berffeithydd ein ffydd. Crist yn gyntaf ac olaf ac yn wastadol. Mae Efe i fod gyda ni, nid yn unig ar ddechrau a diwedd ein gyrfa, eithr pob cam o’r ffordd. Dafydd a ddywed, “Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron; am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir” Salm 16:8.CG 50.4

    A wyt ti yn gofyn, “Pa fodd yr wyf i aros yng Nghrist?” - Yn yr un ffordd ag y derbyniaist Ef ar y cyntaf. “Megis gan hynny y derbyniasoch Grist lesu yr Arglwydd. felly rhodiwch ynddo.” “Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.” Col. 2:6; Heb. 10:38. Yr wyt wedi rhoddi dy hun i Dduw. i fod yn eiddo cyfangwbl iddo, i’w wasanaethu ac ufuddhau iddo, a chymeraist Grist fel dy Waredwr. Ni allaset dy hunan wneud iawn am dy bechodau neu newid dy galon; ond wrth roddi dy hunan i Dduw, yr oeddyt yn credu ei fod Ef, er mwyn Crist, wedi gwneud hyn oll drosot. Trwy ffydd y daethost yn eiddo Crist, a thrwy ffydd yr wyt i gynyddu ynddo - trwy gymryd a rhoddi. Yr wyt i roddi yr oll - dy galon, dy ewyllys, dy wasanaeth - rhoddi dy hunan iddo Ef i ufuddhau i’w holl ofynion; a rhaid i ti gymryd yr oll - Crist, cyflawnder pob bendith, i drigo yn dy galon. i fod yn nerth i ti, yn gyfiawnder, dy Gynorthwywr tragwyddol - i roddi i ti allu i ufuddhau.CG 51.1

    Cysegra dy hunan i Dduw yn y bore; gwna hyn y gwaith cyntaf oll. Boed i’th weddi fod, “Cymer fi, O Arglwydd, fel dy eiddo cyfan gwbl. Yr wyf yn gosod fy holl gynlluniau wrth dy draed. Defnyddia fi heddiw yn dy wasanaeth. Aros gyda mi, a gad i’m holl waith gael ei gyflawni ynot Ti.” Mae hwn yn weithred ddvddiol. Bob bore ymgysegra i Dduw am y dydd hwnnw. Dyro dy holl gynlluniau iddo Ef, i’w cario allan neu i’w hepgor yn ôl fel y dengys ei ragluniaeth Ef. Fel hyn o ddydd i ddydd y galli roddi dy fywyd yn nwylo Duw, ac fel hyn bydd dy fywyd yn cael ei ffurfio yn fwyfwy yn ôl bywyd Crist.CG 51.2

    Bywyd yng Nghrist sydd fywyd o orffwys. Dichon na fydd yna unrhyw bêr-lesmair o deimlad, eithr dylai fod yna ymddiried tangnefeddus parhaus. Nid yw dy obaith ynot dy hun; y mae yng Nghrist. Mae dy wendid di wedi ei uno â’i nerth Ef, dy anwybodaeth â’i ddoethineb, dy lesgedd â’i allu parhaol Ef. Gan hynny nid wyt i edrych arnat dy hun, nid wyt i adael y meddwl i aros ar yr hunan. eithr edrych at Grist. Bydded i’r meddwl canolbwyntio ar ei gariad Ef, ar brydferthwch, perffeithrwydd ei gymeriad. Crist yn ei hunan-ymwadiad, Crist yn ei ymddarostyngiad. Crist yn ei burdeb a’i sancteiddrwydd, Crist yn ei gariad digymar - dyma destyn myfyrdod yr enaid. Trwy ei garu Ef, ei efelychu Ef, dibynnu yn gwbl arno Ef, yr wyt i gael dy drawsffurfio iw ddelw.CG 51.3

    Dywed yr Iesu, “Arhoswch ynof fi.” Mae’r geiriau hyn yn cyfleu y syniad o orffwys, sefydlogrwydd, ymddiriedaeth. Drachefn Efe a wahodda, “Deuwch ataf fi, . . . a chwi a gewch orffwystra.” Matt. 11:28, 29. Mae gan y Salmydd yr un meddwl: “Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho.” Ac mae Esaiah yn rhoddi’r sicrwydd, “Mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid.” Psalm 37:7; Esa. 30:15. Nid ywr gorffwys hwn i’w gael mewn seguryd; canys yng ngwahoddiad y Gwaredwr mae’r addewid am orffwys yn gyfun â’r alwad i lafur: “Cymerwch fy iau arnoch, ... a chwi a gewch orffwystra.” Matt. 11:28, 29. Y galon sydd yn gorffwys lawnaf ar Grist a fydd y fwyaf difrifol a gweithgar mewn llafur drosto.CG 52.1

    Pan fo meddwl dyn yn aros ar hunan, mae yn cael ei droi ymaith oddi wrth Grist, ffynhonell nerth a bywyd. Am hynny y mae Satan yn ymdrechu’n gyson i dynnu y sylw oddi wrth y Gwaredwr, a thrwy hynny rwystro undeb a chymundeb yr enaid â Christ. Pleserau y byd, gofalon ac anhawsterau a gofidiau bywyd, diffygion eraill, neu dy ddiffygion a’th amherffeithrwydd dy hunan - at un neu yr oll o’r rhai hyn y ceisia efe denu’r meddwl. Paid â chymryd dy gamarwain gan ddichellion Satan. Mae llawer yn wir gydwybodol, ac yn dymuno byw i Dduw. yn cael eu harwain ganddo yn rhy fynych i aros ar eu gwendidau a’u diffygion eu hunain, ac felly, trwy eu gwahanu oddi wrth Grist, gobeithia ennill y fuddugoliaeth. Ni ddylem wneud hunan yn ganolbwynt, a mynwesu pryder ac ofn gyda golwg ar gael ein cadw. Mae hyn oll yn troi’r enaid ymaith oddi wrth Ffynhonell ein nerth. Cyflwyna gadwraeth dy enaid i Dduw, ac ymddiried ynddo. Boed i ti siarad a meddwl am Iesu. Gad i’r hunan gael ei golli ynddo Ef. Bwrw ymaith bob amheuaeth; ymlid dy ofnau. Dywed gyda’r Apostol Paul, “Eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi; a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi.” Gal. 2:20. Gorffwys yn Nuw. Y mae Efe yn abl i gadw yr hyn a roddaist iddo. Os bydd i ti adael dy hunan yn ei ddwylaw Ef, Efe a’th ddyg di allan yn fwy na choncwerwr trwy’r Hwn a’th garodd.CG 52.2

    Pan gymerodd Crist arno ei hunan y natur ddynol. rhwymodd ddynoliaeth wrtho ei hun â rhwymyn cariad na ellir byth ei dorri gan unrhyw allu ond dewisiad y dyn ei hun. B\dd i Satan osod gerbron yn barhaus hudoliaethau i’n denu i dorri y rhwymyn hwn - i ddewis ysgaru ein hunain oddi wrth Grist. Dyma lle mae angen am i ni wylio, i ymdrechu, a gweddio, fel na alio dim ein hudo i ddewis meistr arall; oblegid yr ydym bob amser yn rhydd i wneud hyn. Ond bydded 1 ni gadw ein llygaid yn sefydlog ar Grist, ac Efe a’n ceidw. Wrth edrych ar Iesu yr ydym yn ddiogel. Ni all dim ein cipio o’i law Ef. Wrth edrych yn wastadol arno Ef, ni “a newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.” 2 Cor. 3:18.CG 53.1

    Dyma fel yr enillodd y disgyblion cynnar eu tebygolrwydd i’r Gwaredwr annwyl. Pan glywodd y disgyblion hynny eiriau yr Iesu teimlasant eu hangen amdano. Chwiliasant amdano, cawsant Ef, a chanlynasant Ef. Yr oeddynt gydag Ef yn y tŷ, wrth y bwrdd, yn y ddirgelfa, yn y maes. Yr oeddynt gydag Ef fel disgyblion gydag athro, yn derbyn bob dydd wersi o wirionedd sanctaidd o’i enau. Edrychent arno, fel gweision ar eu meistr. i ddysgu eu dyletswydd. Yr oedd y disgyblion hynny yn ddynion “o’r un anian â ninnau.” Iago 5:17. BCN. Yr oedd ganddynt yr un frwydr â phechod i’w hymladd; yr oeddynt mewn angen am yr un gras, er mwyn byw bywyd sanctaidd.CG 53.2

    Nid oedd hyd yn oed Ioan y disgybl annwyl, a lewyrchai lawnaf ddelw y Gwaredwr, yn meddu ar y serchowgrwydd cymeriad hwnnw yn naturiol. Yr ydoedd nid yn unig yn hunan-dybus ac uchelgeisiol am anrhydedd, ond yn danbaid ac anfoddog dan niweidiau. Ond fel yr oedd cymeriad yr Un Dwyfol yn cael ei egluro iddo, gwelodd ei ddiffyg ei hunan, ac fe’i darostyngwyd gan y wybodaeth. Llanwyd ei enaid ag edmygedd a chariad, gan y nerth a’r amynedd, y gallu a’r tynerwch, y mawredd a’r addfwynder a welai ym mywyd dyddiol Mab Duw. Dydd ar ôl dydd tynnid ei galon at Grist, nes iddo golli golwg ar yr hunan mewn cariad at ei Feistr. Ei dymer digofus uchelgeisiol a ildiwyd i ddylanwad ffurfiadol Crist. Darfu i ddylanwad yr Ysbryd Glân adnewyddu ei galon. Darfu i allu cariad Crist weithredu trawsffurfiad cymeriad. Hyn yw canlyniad sicr undeb a’r Iesu. Pan breswylia Crist yn y galon mae’r holl natur yn cael ei thrawsffurfio. Mae Ysbryd Crist, a’i gariad, yn tyneru y galon, yn darostwng yr enaid, ac yn dyrchafu y meddyliau a’r dymuniadau i gyfeiriad Duw a’r nef.CG 53.3

    Pan esgynodd Crist i’r nef yr oedd yr ymdeimlad o’i bresenoldeb gyda’i ganlynwyr yn barhaus. Presenoldeb personol ydoedd, llawn cariad a goleuni. Yr oedd Iesu, y Gwaredwr, yr Hwn a fu’n cerdded, yn siarad a gweddïo gyda hwy, yr Hwn fu yn llefaru gobaith a chysur wrth eu calonnau, tra’r oedd cenadwri heddwch eto ar ei wefusau, wedi ei gymryd i fyny i’r nefoedd oddi wrthynt. ac yr oedd seiniau ei lais wedi dyfod yn ôl atynt, fel yr oedd y cwmwl o angylion yn ei dderbyn - “Wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.” Matt. 28:20. Yr oedd wedi esgyn i’r nef yn ffurf dynoliaeth. Gwyddent ei fod gerbron gorseddfainc Duw, o hyd yn Gyfaill a Gwaredwr iddynt; fod ei gydymdeimlad heb newid; ei fod eto yn un â dynoliaeth yn ei dioddefaint. Yr oedd ei ddwylo clwyfedig, y traed anafus, yng nghanol llysoedd gogoniant, wrth ddadlau dros yr hil syrthiedig, yn dwyn tystiolaeth i’r cariad oedd ynddo at ei waredigion. Gwyddent ei fod wedi esgyn i’r nefoedd i baratoi lle iddynt hwy, ac y deuai drachefn, i’w cymryd ato ei hun.CG 54.1

    Fel yr ymgynullent ynghyd, ar ôl yr esgyniad, yr oeddynt yn awchus i osod eu ceisiadau gerbron y Tad yn enw yr Iesu. Mewn parchedig ofn yr ymostyngent mewn gweddi, gan adrodd yr addewid sicr, “Pa bethau bynnag a ofynoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.” Ioan 16:23,24. Hwy a estynasant law ffydd yn uwch ac yn uwch gyda’r ddadl gref, “Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni.” Rhuf. 8:34. A dygodd y Pentecost iddynt bresenoldeb y Diddanydd, am yr Hwn y dywedodd Crist, “ynoch y bydd efe.” Ac Efe a ddywedasai ymhellach, “Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch: eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch.” Ioan 14:17; 16:7. O hyn allan, yr oedd Crist, trwy’r Ysbryd, i drigo yn barhaus yng nghalonnau ei blant. Yr oeddCG 54.2

    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents