Loading...
Larger font
Smaller font
Copy
Print
Contents
  • Results
  • Related
  • Featured
No results found for: "".
  • Weighted Relevancy
  • Content Sequence
  • Relevancy
  • Earliest First
  • Latest First
    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents

    Article 3—Edifeirwch

    PA FODD Y gall dyn fod yn gyfiawn gyda Duw? Pa fodd y gall y pechadur gael ei wneud yn gyfiawn? Trwy Grist yn unig y gellir ein dwyn i gydgordiad gyda Duw, gyda sancteiddrwydd; ond pa fodd yr ydym i ddyfod at Grist? Mae llawer yn gofyn yr un cwestiwn ag a ofynwyd gan y lliaws ar ddydd y Pentecost, pan dan argyhoeddiad o bechod, y gwaeddasant allan, “Beth a wnawn ni?” Y gair cyntaf o atebiad Pedr oedd, “Edifarhewch.” Ar adeg arall, yn fuan ar ol hyn, y dywedodd, “Edifarhewch ... a dychwelwch, fel y dileër eich pechodau.” Actau 2:38; 3:19.CG 18.1

    Cynnwysa edifeirwch ofid am bechod, a throi ymaith oddi wrtho. Ni bydd i ni ddiarddel pechod nes y gwelwn ei bechadurusrwydd; hyd nes y trown ymaith oddi wrtho yn y galon, ni bydd cyfnewidiad gwirioneddol yn y bywyd.CG 18.2

    Ceir llawer sydd yn methu deall gwir natur edifeirwch. Mae lluoedd yn gofidio am iddynt bechu, ac hyd yn oed yn gwneud adnewyddiad allanol, am eu bod yn ofni i’w drygioni ddwyn dioddefaint arnynt eu hunain. Eithr nid hyn yw edifeirwch yn ystyr y Beibl. Galarant oherwydd y dioddef, yn hytrach na’r pechod. Dyma oedd tristwch Esau pan welodd fod yr enedigaeth-fraint wedi ei cholli iddo am byth. Darfu i Balaam, ar ôl ei ddychrynu gan yr angel a safai ar ei lwybr gyda chleddyf noeth, gydnabod ei euogrwydd rhag ofn iddo golli ei fywyd; eithr nid oedd yno edifeirwch pur am bechod, dim argyhoeddiad amcan, dim atgasedd at ddrwg. Judas Iscariot, ar ôl iddo fradychu ei Arglwydd, ddywedodd, “Pechais, gan fradychu gwaed gwirion.” Matt. 27:4.CG 18.3

    Gwthiwyd y cyffesiad allan o’i enaid euog gan ymdeimlad ofnadwy o ddamnedigaeth a golwg ddychrynllyd ar farnedigaeth. Llanwyd ef â dychryn gan y canlyniadau oedd i ddilyn iddo ef, ond nid oedd gofid dwfn yn ei enaid am iddo fradychu Mab difrycheulyd Duw, a gwadu Sanct yr Israel. Pan oedd Pharaoh yn dioddef dan farnedigaethau Duw, cydnabyddodd ei bechod, er mwyn osgoi cosb bellach, eithr dychwelodd i herio’r Nefoedd cyn gynted ag y cafodd y plâu eu hatal. Galarai y rhai hyn oll am ganlyniadau pechod, eithr nid oeddynt yn gofidio am y pechod ei hun.CG 18.4

    Ond pan ildia y galon i ddylanwad Ysbryd Duw, caiff y gydwybod ei deffro, a chenfydd y pechadur rywfaint o ddyfnder a chysegredigrwydd cyfraith sanctaidd Duw, sail ei lywodraeth mewn nef a daear. Y “Goleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd” (Ioan 1:9), a oleua gelloedd dirgel yr enaid, a gwneud yn amlwg bethau cuddiedig y tywyllwch. Cymer argyhoeddiad afael ar y meddwl a’r galon. Mae gan y pechadur syniad o gyfiawnder y Jehofah, a theimla yr arswyd o ymddangos, yn ei euogrwydd a’i aflendid ei hunan, gerbron Chwiliwr y calonnau. Mae’n gweld cariad Duw, prydferthwch sancteiddrwydd, a llawenydd purdeb; hiraetha am gael ei olchi, a chael ei adfer i gymundeb â’r Nef.CG 19.1

    Mae gweddi Dafydd ar ôl ei gwymp yn egluro natur gwir dristwch am bechod. Yr oedd ei edifeirwch yn ddidwyll a dwfn. Nid oedd yno un ymgais i guddio euogrwydd ag esgus; na’r un dymuniad i osgoi y farnedigaeth fygythiol yn ysbrydoli ei weddi. Gwelodd Dafydd faint ei drosedd; gwelodd halogrwydd ei enaid; ffieiddiodd at ei bechod. Nid am faddeuant yn unig y gweddiodd, ond am burdeb calon. Hiraethai am lawenydd sancteiddrwydd - am gael ei adfer i gydgordiad a chymundeb â Duw. Dyma oedd iaith ei enaid:CG 19.2

    Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod.
    Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd,
    Ac ni byddo dichell yn ei ysbryd.
    Trugarha wrthyf, o Dduw, yn ô1 dy drugarowgrwydd:
    Yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau....
    Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau: a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron. . . .
    Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na’r eira....
    Crea galon lân ynof, O Dduw;
    Ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn. Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron;
    Ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.
    Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth;
    Ac a’th hael ysbryd cynnal fi. . . .
    Gwared fi oddi wrth waed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth:
    A’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.” Salm 32:1, 2; 51:1-14.
    CG 19.3

    Mae edifeirwch fel hwn tu hwnt i’n galluoedd ein hunain ei gyrraedd; derbynir ef yn unig oddi wrth Grist, yr hwn a esgynodd yn uchel, ac a roes roddion i ddynion.CG 20.1

    Ceir yma bwynt lle mae llawer yn cyfeiliorni, a thrwy hynny y maent yn methu derbyn y cymorth y dymuna Crist ei roddi iddynt. Tybiant na allant ddyfod at Grist os na wnânt yn gyntaf edifarhau, a bod yr edifeirwch hwnnw yn paratoi y ffordd i faddeuant o’u pechodau. Gwir fod edifeirwch yn blaenori maddeuant pechodau; oblegid y galon doredig a chystuddiedig yn unig a deimla yr angen am Waredwr. Ond a raid i’r pechadur aros nes iddo edifarhau cyn y gall ddyfod at yr Iesu? A yw edifeirwch i gael ei wneud yn atalfa rhwng y pechadur a’r Gwaredwr?CG 20.2

    Nid yw’r Beibl yn dysgu fod yn rhaid i’r pechadur edifarhau cyn y gall ystyried gwahoddiad Crist. “Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch.” Matt. 11:28. Y rhinwedd sydd yn mynd allan o Grist yw’r hyn sydd yn arwain i edifeirwch pur. Gwnaeth Pedr y mater yn glir yn ei ddatganiad i’r Israeliaid, pan y dywedodd, “Hwn a ddyrchafodd Duw â’i ddeheulaw, yn Dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.” Actau 5:31. Ni allwn edifarhau heb Ysbryd Crist i ddeffro ein cydwybod mwy nac y gellir maddau heb Grist.CG 20.3

    Crist ydyw ffynhonell pob cymhelliad da. Efe yw’r unig un all blannu gelyniaeth at bechod yn y galon. Mae pob dymuniad am wirionedd a phurdeb, pob argyhoeddiad o’n pechod ein hunain, yn brawf fod ei Ysbryd Ef yn symud ar wyneb ein calonnau.CG 20.4

    Yr Iesu a ddywedodd, “A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun.” Ioan 12:32. Rhaid i Grist gael ei ddatguddio i’r pechadur fel lachawdwr yn marw dros bechodau y byd; ac fel yr edrychwn ar Fab Duw ar groes Calfaria, mae dirgelwch iachawdwriaeth yn dechrau datblygu yn ein meddyliau, ac mae daioni Duw yn ein tywys i edifeirwch. Wrth farw dros bechaduriaid, eglurodd Crist y cariad sydd yn y tu hwnt i amgyffred; ac fel mae’r pechadur yn canfod y cariad hwn, mae yn tyneru y galon, yn gwneud argraff ar y meddwl, ac yn ysbrydoli edifeirwch yn yr enaid.CG 20.5

    Mae’n wir fod dynion weithiau yn dyfod i deimlo cywilydd am eu ffvrdd pechadurus, ac yn rhoddi heibio rai o’u harferion drygionus, cyn eu bod yn ymwybodol eu bod yn cael eu tynnu at Grist. Ond pa bryd bynnag y gwnant ymdrech at ddiwygio, oherwydd dymuniad cywir am wneud yr hyn sydd iawn, gallu Crist sydd yn eu tynnu. Gweithreda ar yr enaid ddylanwad o ba un y maent hwy yn anymwybodol, a bywioceir y gydwybod, ac mae’r bywyd allanol yn cael ei ddiwygio. Ac fel mae Crist yn eu tynnu i edrych ar ei groes Ef, i edrych arno Ef yr Hwn a drywanwyd gan eu pechodau. daw y gorchymyn adref i’r gydwybod. Datguddir iddynt ddrygioni eu bywyd, a phechod dwfn yr enaid. Dechreuant amgyffred rhywbeth o gyfiawnder Crist, a gwaeddant, “Beth yw pechod, fel y gofynid y fath aberth er adferiad yr un sydd yn aberth iddo? A oedd yr holl gariad hwn, yr holl ddioddef yma, y darostyngiad hwn i gyd, yn cael ei ofyn, fel na chollid ni, eithr caffael ohonom fywyd tragwyddol?”CG 21.1

    Gall y pechadur wrthwynebu y cariad hwn, gwrthod cymryd ei dynnu at Grist; ond os na wrthwyneba, bydd iddo gael ei dynnu at Grist; bydd i wybodaeth o drefn yr iachawdwriaeth ei arwain at droed y groes mewn edifeirwch am ei bechodau, y rhai fu yn achos i Fab Duw ddioddef.CG 21.2

    Yr un meddwl Dwyfol sydd yn gweithio ar bethau natur sydd yn llefaru wrth galonnau dynion, ac yn creu blys anhraethadwy am rhywbeth nad yw ganddynt. Ni all pethau y byd fodloni eu hiraeth. Mae Ysbryd Duw yn erfyn arnynt i geisio y pethau hynny a all yn unig roddi tangnefedd a gorffwys - gras Crist, a llawenydd sancteiddrwydd. Trwy ddylanwadau gweledig ac anweledig, mae ein Gwaredwr yn gyson ar waith yn denu meddyliau dynion oddi wrth bleserau pechod, na allant fodloni, at y bendithion anfeidrol a all fod yn eiddo iddynt ynddo Ef. At yr holl eneidiau hynny, sy’n ceisio yn ofer yfed o bydewau toredig y byd yma, mae’r genadwri Ddwyfol yn cael ei chyfeirio, “A’r hwn sydd â syched arno, deued. A’r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad.” Dat. 22:17.CG 21.3

    Boed i ti sydd yn dy galon yn hiraethu am rywbeth gwell nas dichon y byd hwn ei roddi, adnabod yr hiraeth hwn fel llais Duw i’th enaid. Gofyn iddo Ef roddi i ti edifeirwch, i ddatguddio Crist i ti yn ei anfeidrol gariad, yn ei burdeb perffaith. Cafodd egwyddorion deddf Duw - cariad at Dduw a dyn - eu hegluro yn berffaith ym mywyd y Gwaredwr. Cymwynasgarwch, cariad anhunanol oedd bywyd ei enaid Ef. Yn ôl fel y byddwn yn edrych arno Ef, fel y disgyna y goleuni oddi wrth y Gwaredwr arnom ni, y gwelwn bechadurusrwydd ein calonnau ein hunain.CG 22.1

    Dichon i ni fod yn canmol ein hunain, fel y gwnaeth Nicodemus, fod ein bywyd wedi bod yn dda, fod ein cymeriad moesol yn gywir, a chredu nad oes angen arnom ni ddarostwng y galon gerbron Duw, fel y pechadur cyffredin; ond pan lewyrcha y goleuni oddi wrth Grist i mewn i’n heneidiau, cawn weld pa mor amhur ydym; cawn weld hunanoldeb, yr elyniaeth yn erbyn Duw, a haloga bob gweithred. Y pryd hynny y cawn sylweddoli fod ein cyfiawnderau ein hunain yn wir megis bratiau budron, ac mai gwaed Crist yn unig a ddichon ein glanhau oddiwrth halogrwydd pechod, ac adnewyddu ein calonnau yn ôl ei ddelw ei hun.CG 22.2

    Un pelydryn o ogoniant Duw, un tywyniad o burdeb Crist, yn treiddio i’r enaid, wnaiff bob brycheuyn o halogrwydd yn boenus amlwg, gan ddinoethi gwrthuni a diffygion y cymeriad dynol. Dengys yn amlwg y dymuniadau ansanctaidd, anghrediniaeth y galon, halogrwydd y gwefusau. Gwneir yn noeth i lygaid y pechadur ei weithredoedd anheyrngar sy’n gwneuthur yn ddirym gyfraith Duw, a gwneir ei ysbryd yn ddiymadferth a chystuddiedig dan ddylanwad treiddiol Ysbryd Duw. Efe a ffieiddia ei hun wrth edrych ar gymeriad pur a difrycheulyd Crist.CG 22.3

    Pan welodd y proffwyd Daniel y gogoniant a amgylchynai y cenhadwr nefol a ddanfonwyd ato, gorchfygwyd ef gan deimlad o’i wendid a’i amherffeithrwydd ei hun. Wrth ddisgrifio effaith y weledigaeth ryfedd, dywed, “Ac ni thrigodd nerth ynof: canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth.” Dan. 10:8. Mae’r enaid a gyffyrddir fel hyn yn casáu ei hunanoldeb, yn ffieiddio ei hunan-gariad, a thrwy gyfiawnder Crist yn ceisio y purdeb calon sydd mewn cytgordiad â deddf Duw a chymeriad Crist.CG 22.4

    Dywed Paul ei fod “yn ôl y cyfiawnder sydd yn y ddeddf” - mor bell ag yr oedd gweithredoedd allanol yn y cwestiwn - yn “ddiargyhoedd” (Phil. 3:6); ond pan welwyd cymeriad ysbrydol y ddeddf gwelodd ei hun yn bechadur. A barnu ei hun yn ôl llythyren y gyfraith, fel mae dynion yn ei chymwyso at y bywyd allanol, yr oedd wedi ymwrthod â phechod; eithr pan edrychodd i ddyfnderoedd ei gorchymynion sanctaidd a gweld ei hun fel yr oedd Duw yn ei weld, plygodd mewn ymddarostyngiad, a chyffesodd ei euogrwydd. Dywed, “Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf; ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw.” Rhuf. 7:9. Pan welodd natur ysbrydol y ddeddf, ymddangosodd pechod yn ei wir erchylldra, a’i hunan-gyfiawnder a giliodd.CG 23.1

    Nid yw bob pechod yn gyfartal yng ngolwg Duw; mae graddau o euogrwydd yn ei olwg Ef, yn ogystal ag yng nghyfrif dyn; ond pa mor ddibwys bynnag y dichon i’r weithred ddrwg hon neu arall ymddangos yng ngolwg dynion, nid oes un pechod yn fychan yng ngolwg Duw. Mae dyfarniad dyn yn rhannol ac amherffaith; ond y mae Duw yn cyfrif pob peth fel y maent mewn gwirionedd. Dirmygir y meddwyn, a dywedir wrtho y bydd i’w bechod ei gau allan o’r nefoedd; tra mae balchder, hunanoldeb, a chybydd-dod yn rhy fynych yn mynd heb gerydd. Eithr mae y rhai hyn yn bechodau sydd yn neilltuol wrthun i Dduw; oblegid y maent yn groes i gymwynasgarwch, ei gymeriad, i’r cariad anhunanol hwnnw sydd yn wir awyrgylch y greadigaeth ddigwymp. Gall yr hwn a syrthia i rai o’r pechodau mwyaf gwrthun feddu ymdeimlad o’i warth, a’i dlodi, a’i angen am ras Crist; ond ni theimla balchder angen o gwbl, a thrwy hynny mae yn cau y galon yn erbyn Crist, a’r bendithion anfeidrol y daeth Ef i’w cyfranu.CG 23.2

    Publican druan a weddiodd, “O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur” (Luc 18:13), ac edrychai arno ei hun fel dyn tra phechadurus, ac edrychai eraill arno yn yr un golau; ond yr oedd ef yn sylweddoli ei angen, a chyda’i faich o euogrwydd a gwarth daeth gerbron Duw, gan ofyn am drugaredd. Yr oedd ei galon yn agored i Ysbryd Duw wneud ei waith grasol, a’i ryddhau oddi wrth allu pechod. Dangosai gweddi fostfawr, hunan-gyfiawn y Pharisead fod ei galon yn gaeëdig i ddylanwad yr Ysbryd Glân. Oherwydd ei bellter oddi wrth Dduw nid oedd ganddo ymdeimlad o’i halogrwydd ei hun mewn cyferbyniad â’r perffeithrwydd sanctaidd Dwyfol. Ni theimlai ddim angen, a chan hynny ni allai dderbyn dim.CG 23.3

    Os wyt yn gweld dy bechadurusrwydd, paid ag aros i wneud dy hunan yn well. Pa faint sydd yn meddwl nad ydynt yn ddigon da i ddyfod at Grist. A wyt yn disgwyl dyfod yn well drwy dy ymdrechion dy hunan? “A newidia yr Ethiopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg.” Jer. 13:23. Yn Nuw yn unig y ceir cymorth i ni. Ni ddylem ddisgwyl am gymhellion cryfach, am gyfleusterau gwell, neu am dymherau mwy sanctaidd. Ni allwn wneud dim ohonom ein hunain. Rhaid i ni ddyfod at Grist megis ag yr ydym.CG 24.1

    Eithr na thwylled neb ei hunan gyda’r syniad y gwna Duw, yn ei fawr gariad a’i drugaredd, eto achub hyd yn oed wrthodwyr ei ras. Yng ngoleuni y groes yn unig y gellir cyfrif pechadurusrwydd dirfawr bechod. Pan argymhella dynion fod Duw yn rhy dda i fwrw ymaith y pechadur, boed iddynt edrych i Galfaria. Am nad oedd ffordd arall i gadw dyn. oherwydd ei bod yn amhosibl i’r hil ddynol ddianc rhag dylanwad llwgr pechod heb y cyfryw aberth, a chael eu hadfer i gymundeb â bodau sanctaidd - yn amhosibl iddynt drachefn ddyfod yn gyfranogion o’r bywyd ysbrydol - oherwydd hyn y cymerodd Crist arno ei hunan euogrwydd yr anufudd-dod, a dioddef yn lle’r pechadur. Mae cariad a dioddefaint a marwolaeth Mab Duw oll yn tystio i ddrygioni ofnadwy pechod, ac yn dangos nad oes dihangfa rhag ei awdurdod, dim gobaith am fywyd uwch, ond trwy ymostyngiad yr enaid i Grist.CG 24.2

    Mae’r anedifeiriol weithiau yn ymesgusodi trwy ddweud am Gristionogion proffesedig, “Yr wyf fi cystal â hwythau. Nid ydynt yn fwy hunanymwadol, difrifol, neu ochelgar yn eu hymddygiad nac ydwyf finnau. Maent yn caru pleser a hunanfoddhad yn gystal â minnau.” Yn y modd yma, gwnânt ddiffygion eraill yn esgus dros eu hesgeulusdra eu hunain o ddyletswydd. Eithr nid yw pechodau a diffygion eraill yn esgusodi neb; oblegid ni roddodd yr Arglwydd i ni gynllun dynol diffygiol. Rhoddwyd Mab difrycheulyd Duw fel ein hesiampl, a’r rhai sy’n cwyno am gam-fuchedd Cristionogion proffesedig yw r rhai a ddylai ddangos bywydau gwell, ac esiamplau ardderchocach. Os oes ganddynt syniad mor uchel am yr hyn y dylai Cristion fod, onid yw eu pechod eu hunain gymaint â hynny yn fwy? Gwyddant pa beth sydd yn iawn, ac eto gwrthodant ei wneuthur.CG 24.3

    Gochelwch rhag oedi. Peidiwch ag esgeuluso y gwaith o ymadael â’ch pechodau a cheisio purdeb calon drwy’r Iesu. Dyma lle mae miloedd wedi methu, er eu colled dragwyddol. Ni arhosaf yma ar fyrder ac ansicrwydd bywyd; ond mae perygl ofnadwy - perygl nad yw yn cael ei ddeall yn ddigonol - mewn oedi ildio i lais perswâd yr Ysbryd Sanctaidd Duw, trwy ddewis byw mewn pechod; canys dyna mewn gwirionedd yw’r oediad hwn. Ni ellir ymfodloni mewn pechod, pa mor fychan bynnag y dichon iddo gael ei gyfrif, ond yn unig dan berygl colled anfeidrol. Yr hyn na orchfygir a’n gorchfyga ni, a gweithia allan ein dinistr.CG 25.1

    Darfu i Adda ac Efa berswadio eu hunain na allai y fath ganlyniadau erchyll ag a fynegwyd gan Dduw ddilyn peth mor fychan â bwyta o’r ffrwyth gwaharddedig. Ond y peth bychan hwn oedd troseddu yn erbyn deddf sanctaidd ac anghyfnewidiol Duw, a darfu iddo ysgaru dyn oddi wrth Dduw, ac agor llif-ddorau marwolaeth a gwae nas mynegwyd ar ein byd ni. Oes ar ôl oes y mae cri barhaus o alar wedi esgyn i fyny o’n daear ni, ac mae’r holl greadigaeth yn cydochneidio ac yn cydofidio mewn poen, o ganlyniad i anufudd-dod dyn. Teimlodd y nefoedd ei hunan effeithiau ei wrthryfel yn erbyn Duw. Saif Calfaria fel cof-golofn o’r aberth ryfeddol oedd yn ofynol er adfer yr hyn a gollwyd trwy droseddu y gyfraith Ddwyfol. Na fydded i ni edrych ar bechod fel peth dibwys.CG 25.2

    Mae pob gweithred o drosedd, pob esgeulusdod neu wrthodiad o ras Crist, yn adweithio arnoch eich hunain; maent yn caledu y galon, yn llygru yr ewyllys, yn marweddio y deall, ac nid yn unig yn eich gwneud yn llai tueddol i ildio, ond yn llai galluog i ildio i berswâd tyner Ysbryd Sanctaidd Duw.CG 25.3

    Mae llawer yn tawelu cydwybod gyffrous gyda’r dybiaeth y gallant newid cwrs pechod pryd y mynont; y gallant chwarae â gwahoddiadau trugaredd, ac eto gael argraffu arnynt drachefn a thrachefn. Tybiant y gallant, ar ôl dirmygu Ysbryd y gras, ar ôl taflu eu dylanwad o blaid Satan, newid eu cwrs mewn moment o wasgfa erchyll. Ond nid mor hawdd y gwneir hyn. Mae profiad, yr addysg am fywyd, wedi ffurfio y cymeriad mor drwyadl fel mai ychydig y pryd hynny a ddymunent dderbyn delw yr Iesu.CG 25.4

    Mae hyd yn oed un linell ddrwg o gymeriad, un dymuniad pechadurus, o’i achlesu yn barhaus yn gwneud holl ddylanwad yr Efengyl yn ddi-rym. Mae pob ymfoddhad pechadurus yn cryfhau gwrthwynebiad yr enaid i Dduw. Ni wna y dyn a ddengys hyfdra yr anffyddiwr, neu ddifaterwch ynfyd o wirionedd Dwyfol, ond medi yr hyn a haeodd ei hunan. Ni cheir yn yr holl Feibl rybudd mwy arswydus yn erbyn chwarae â drwg na geiriau y gŵr doeth, fod yr annuwiol yn cael ei ddal “â rhaffau ei bechod ei hun.” Diar. 5:22.CG 26.1

    Mae Crist yn barod i’n rhyddhau oddi wrth bechod, ond nid yw yn gorfodi yr ewyllys; ac os yw’r ewyllys ei hunan trwy droseddu parhaus yn gwbl dueddol at ddrwg, a ninnau heb ddymuno cael ein rhyddhau, os na ewyllysiwn dderbyn ei ras, pa beth yn fwy all Efe ei wneuthur? Yr ydym wedi dinistrio ein hunain trwy wrthod yn fwriadol ei gariad Ef. “Wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.” 2 Cor. 6:2. “Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.” Heb. 3:7, 8.CG 26.2

    “Canys dyn a edrych ar y golygiad; ond yr Arglwydd a edrych ar y galon” (1 Sam. 16:7) - y galon ddynol, gyda’i theimladau ymrysonol o lawenydd a thristwch - y galon ystyfnig, grwydredig, sydd yn drigfa cymaint o amhuredd a thwyll. Gẁyr Efe ei chymhellion, ei gwir amcanion a’i bwriadau. Dos ato Ef gyda’th enaid fel y mae wedi ei hollol lychwino. Tafl ei chilfachau, fel y Salmydd, yn agored i’r Llygad Hollweledig, a dywed, “Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon; prawf fi, a ewybydd fy meddyliau. A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.” Salm 139:23, 24.CG 26.3

    Pan nad yw’r galon wedi ei glanhau ceir llawer yn derbyn crefydd deallol, rhith duwioldeb. Bydded i’th weddi fod, “Crea galon lân ynof, O Dduw, ac adnewydda ysbryd uniawn o’m mewn.” Salm 51:10. Delia yn onest â’th enaid dy hun. Bydd mor ddifrifol, mor ddyfal-barhaol, fel y buaset pe byddai dy fywyd marwol mewn perygl. Mater i’w benderfynu rhwng Duw a’th enaid dy hun ydyw hwn - i’w benderfynu am dragwyddoldeb. Bydd i obaith tybiedig, a dim mwy, brofi yn ddinistr i ti.CG 26.4

    Myfyria dros Air Duw yn weddigar. Gesyd y Gair hwnnw o’th flaen, yng nghyfraith Duw a bywyd Crist, egwyddorion mawr sancteiddrwydd, “heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd.” Heb. 12:14. Mae yn dy argyhoeddi o bechod; mae yn datguddio yn eglur ffordd iachawdwriaeth. Dyro ystyriaeth iddo fel Uais Duw yn llefaru wrth dy enaid.CG 26.5

    Wrth i ti weld erchylldra dy bechod, wrth i ti weld dy hunan fel yr wyt mewn gwirionedd, paid ag anobeithio. I gadw pechaduriaid y daeth Crist. Ni raid i ni gymodi Duw â ni, ond - O gariad rhyfeddol! Mae Duw yng Nghrist yn “cymodi’r byd ag ef ei hun.” 2 Cor. 5:19. A’i gariad tyner mae yn denu calonnau ei blant camweddus. Ni allai un rhiant daearol fod mor amyneddgar gyda diffygion a chamgymeriadau ei blant ag ydyw Duw gyda’r rhai y ceisia eu cadw. Ni allai neb bledio yn fwy tyner gyda’r troseddwr. Ni ddarfu unrhyw wefusau dynol erioed dywallt allan erfyniadau tynerach at y crwydryn nac y gwna Efe. Nid yw ei holl addewidion a’i rybuddion ond anadliad cariad anhraethadwy.CG 27.1

    Pan ddaw Satan i ddweud wrthyt dy fod yn bechadur mawr, edrych i fyny at dy Waredwr, a siarad am ei haeddianau. Yr hyn a’th gynorthwya ydyw edrych i fyny at ei oleuni Ef. Addefa dy bechod, ond dywed wrth y gelyn “Ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid” (1 Tim. 1:15), ac y gellir dy gadw dithau drwy ei gariad anhraethol. Gofynodd yr Iesu i Simon gwestiwn ynghylch dau ddyledwr. Yr oedd un yn nyled ei arglwydd o swm bychan, a’r llall yn ei ddyled o swm mawr iawn; eithr efe a faddeuodd i’r ddau, a gofynodd Crist i Simon pa ddyledwr a garai ei arglwydd fwyaf. Atebodd Simon, “mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf.” Luc 7:43. Ni a fuom bechaduriaid mawrion; eithr bu Crist farw fel y gellid maddau i ni, a chael ein hadfer i gytgordiad â’r nef. Ei gyfiawnder Ef yn unig all roddi i ni allu i fod yn feibion i Dduw. Y rhai y maddeuodd iddynt fwyaf a’i carant fwyaf, ac a safant agosaf at ei orsedd i’w foliannu am ei fawr gariad a’i aberth anfeidrol. Yn ôl fel y byddwn yn amgyffred cariad Duw y bydd i ni sylweddoli pechadurusrwydd pechod. Pan welwn hyd y gadwyn a ollyngwyd i lawr i ni, pan ddeallwn rywbeth o’r aberth anfeidrol a wnaeth Crist drosom. toddir y galon i dynerwch ac edifeirwch.CG 27.2

    Larger font
    Smaller font
    Copy
    Print
    Contents